Bydd tîm rygbi dynion Cymru’n herio Ffiji, Awstralia a De Affrica yn yr hydref.
Bydd y gemau yn erbyn Ffiji (Tachwedd 10, 1.40yp) ac Awstralia (Tachwedd 17, 4.10yp) cael eu cynnal ar ddydd Sul, a’r gêm yn erbyn De Affrica, pencampwyr y byd, ar ddydd Sadwrn (Tachwedd 23, 5.40yh).
Fydd yna’r un gêm y tu allan i ffenest Rygbi’r Byd, sydd fel arfer yn codi cwestiynau ynghylch argaeledd chwaraewyr.
Dyma’r tro cyntaf, felly, i Gymru chwarae tair gêm hydref yn unig.
Roedd Georgia wedi gwahodd Cymru i gynnal gêm yn eu herbyn, ond does dim lle yn y calendr ar gyfer y gêm honno.
Bydd y gemau’n cyd-fynd â dathliadau 25 mlynedd y stadiwm yng Nghaerdydd, oedd wedi agor ar drothwy Cwpan Rygbi’r Byd yn 1999 gyda gêm rhwng Cymru a De Affrica.
Bydd Cymru’n herio De Affrica yn yr haf hefyd, ar Fehefin 22 yn Twickenham, cyn herio Awstralia mewn dwy gêm brawf yn Sydney a Melbourne.
Erbyn i’r tymor ddod i ben, bydd Cymru wedi chwarae deunaw o gemau.