Mae nifer o glybiau pêl-droed yng Nghymru wedi mynegi pryderon am y penderfyniad i ddileu ailchwarae gemau yng Nghwpan FA Lloegr.

Ar hyn o bryd, does dim gemau’n cael eu hailchwarae o’r bumed rownd ymlaen, ond mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr bellach wedi eu dileu’n llwyr o’r gystadleuaeth.

Bydd y drefn newydd yn dod i rym ar gyfer tymor 2024-25.

Bydd holl rowndiau’r gwpan hefyd yn cael eu cynnal ar benwythnosau yn hytrach na chynnal rhai gemau ganol wythnos.

Mae’r newidiadau’n rhan o gytundeb chwe blynedd rhwng Cymdeithas Bêl-droed ac Uwch Gynghrair Lloegr.

Fydd dim toriad yn nhymor yr Uwch Gynghrair o hyn ymlaen chwaith.

Yn ôl yr awdurdodau, daw’r penderfyniad i ddileu ailchwarae gemau o ganlyniad i bwysau’r calendr Ewropeaidd a chystadlaethau UEFA.

‘Gwarthus’

Mae Graham Coughlin, rheolwr Casnewydd, wedi beirniadu’r penderfyniad fel un “gwarthus”, ac mae’r clwb hefyd wedi mynegi eu “siom”.

Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Abertawe hefyd yn dweud eu bod nhw’n “rhwystredig a siomedig” ynghylch y penderfyniad.

“Rydym yn annog y Gymdeithas Bêl-droed i oedi gyda’r cynlluniau ac i gynnal ymgynghoriad cadarn a thrylwyr,” meddai llefarydd.

‘Hynod siomedig’

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod y penderfyniad yn “hynod siomedig”, ac yn un fydd yn “niweidio’r holl glybiau tu allan i’r Uwch Gynghrair”.

“O bersbectif timau Cymreig, bydd Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam i gyd yn teimlo effaith ariannol negyddol y cytundeb hwn,” meddai Laura Anne Jones, llefarydd chwaraeon y blaid.

“Dw i’n annog yr Ysgrifennydd Cabinet â chyfrifoldeb dros Ddiwylliant i ysgrifennu at y Gymdeithas Bêl-droed i sefyll i fyny dros glybiau pêl-droed yng Nghymru.

“Rhaid i’r Gymdeithas Bêl-droed weld synnwyr y peth a gwneud tro pedol ar y penderfyniad polareiddiol hwn, er lles clybiau ar draws y Gynghrair Bêl-droed.”