Dwi’n cofio mynd i St Alban’s tua ugain mlynedd yn ôl, gyda ffrind dwi wedi hen golli cysylltiad â fo. Tref fach ddigon dymunol, o be gofia’ i, er nad ydw i’n cofio ryw lawer ond am y Weatherspoons yno. Dwi ddim, fodd bynnag, yn cofio tafarn y Lower Red Lion, a greodd gryn stŵr yn ddiweddar gydag arwydd tu allan yn dweud “Dog-friendly, Child Free”. Byddai fy ffrind wedi casáu hynny, a fynta’n casáu cŵn. Mi fyddwn i, ar y llaw arall, wedi bod wrth fy modd.

Cafodd y stori, a’r llun cyfatebol, ei weld gan tua 75 miliwn o bobl ar X. Ac er nad ydw i bellach ar y llwyfan hwnnw, gwn iddo hollti barn. Gwnaeth nifer ddweud ei fod yn warthus, gyda rhai’n holi “pam ei bod hi bellach yn dderbyniol i gasáu plant?” a wnaeth imi chwerthin. Dwi’n eitha’ siŵr nad ydi hynny’n dderbyniol.

Wrth gwrs, yn yr hen ddyddiau, roedd tafarndai’n aml yn gwrthod plant – naill ai mewn ardal benodol neu ar ôl hyn-a-hyn o’r gloch. Ar y llaw arall, mae cŵn wastad wedi cael croeso ynddynt – dim ond i un dafarn erioed dwi wedi cael gwrthod mynediad achos bod gen i gi, fydd wastad yn destun fy llid a’m gelyniaeth.

Gan ddweud hynny, tra nad yw cŵn sy’n camfihafio yn anghyffredin, yn anffodus, go brin bod y cŵn hynny i’w cael mewn na thafarn na chaffi. Yn un peth, mae’n destun embaras i’r perchennog, ond mae llefydd yn ddigon bodlon i gael gair â phobl â chŵn afreolus a gofyn iddyn nhw adael. Mae hyn yn hollol deg, ac yn wir i’w groesawu.

Ond nid felly plant. Wn i ddim sawl peint, sawl paned neu sawl pryd rydyn ni oll wedi eu profi lle mae’r pleser wedi cael ei sugno ohono gan blant. Nid pob plentyn, wrth gwrs, ond rydych chi’n gwybod am beth dwi’n sôn. Y rhieni hynny sy’n gadael i’w diawliaid bach redeg o gwmpas yr ardd gwrw fel petai’n ardd gefn, yn gweiddi, yn swnian, yn cael stranc – yn amharu. Y rhieni hynny sy’n eu trin nhw fel tywysogion a thywysogesau a chanddynt hawl ddwyfol i sbwylio awyrgylch hamddenol braf. Babis yn sgrechian crïo wrth i chi geisio ymlacio. A’r disgwyliad bod yn rhaid i bawb arall oddef hyn. Roedd un o’m hen locals yn arbennig o euog am ganiatáu ymddygiad o’r fath, a chrafodd fawr ddim fwy arna i’n waeth.

Wrth gwrs, cyn belled bod plant neu gŵn yn ymddwyn yn gall, dydi hi fawr o otsh lle maen nhw. Ac eto, alla i ddim helpu â meddwl bod tref fach ddel St Alban’s rywsut yn teimlo ychydig yn fwy atyniadol diolch i’r Lower Red Lion!