Mae S4C wedi cyhoeddi cyfres newydd sbon Y Llais, sef fersiwn Gymraeg o’r rhaglen ganu boblogaidd The Voice.
Yn cyflwyno’r rhaglen fydd Siân Eleri, gyda Bryn Terfel ymhlith yr hyfforddwyr yn y cadeiriau fydd yn troi – neu beidio – i’r ymgeiswyr.
Boom Cymru fydd yn cynhyrchu’r gyfres fydd yn cael ei darlledu’r flwyddyn nesaf.
Dyma’r 75ain addasiad o fformat gwreiddiol y gyfres sy’n cael ei darlledu yn ei amrywiol ffurfiau ac mewn nifer o ieithoedd ledled y byd.
Bydd wyth pennod awr a hanner o hyd yn y gyfres gyntaf ar S4C, a bydd cystadleuwyr yn cymryd rhan mewn clyweliadau gerbron pedwar o artistiaid gorau Cymru yn y cadeiriau coch.
Bydd enillydd y gyfres yn sicrhau cynllun mentora deuddeg mis, gan gynnwys y cyfle i berfformio ar raglenni S4C.
‘Darganfod y seren fawr nesaf’
“Mae’n wych bod Gwlad y Gân yn cael fersiwn arbennig ei hun o’r gyfres The Voice – pa ffordd well o ddarganfod y seren fawr nesaf?” meddai Bryn Terfel.
“Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan, gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru ar y wefan www.s4c.cymru/yllais.
“Dyma’r cyfle perffaith i wireddu eich breuddwyd, i berfformio ar S4C, ac i fod yn rhan o’r gyfres mwyaf cyffrous ar y teledu.”
Mae Siân Eleri yn llais cyfarwydd i wrandawyr BBC Radio 1.
“Dwi wrth fy modd yn cael y cyfle i gyflwyno un o sioeau mwya’r byd – sioe sy’n blatfform i ddarganfod a meithrin talent newydd,” meddai.
“Mae croesawu’r sioe adre i Gymru gyda S4C yn brofiad gwirioneddol arbennig!
“Dwi methu aros i weld y cadeiriau enwog yn troi!”
‘Apelio yn eang’
“Rydyn ni’n falch iawn i fedru dod â fformat sydd mor llwyddiannus yn fyd eang i Gymru,” meddai Geraint Evans, Prif Swyddog Cynnwys dros dro S4C.
“Wrth i ni anelu i ddenu cynulleidfa amrywiol, bydd Y Llais yn dipyn o sioe fydd yn apelio yn eang.
“Bydd y driniaeth yn Gymreig ac yn Gymraeg iawn, gydag un o gantorion opera mwyaf llwyddiannus y byd, Syr Bryn Terfel yn eistedd yn un o’r cadeiriau coch adnabyddus, ac enwau cyffrous o’r byd canu cyfoes Cymraeg i ddilyn.
“Fel cenedl rydyn ni wedi cynhyrchu rhai o leisiau gorau’r byd, ac rydyn ni’n mawr obeithio y bydd y gyfres hon yn dod o hyd i’r llais mawr nesa’ o Gymru.”
“Mae The Voice yn gystadleuaeth leisiol fyd-eang eiconig, a’r llwyfan perffaith i ddarganfod llais hudolus o Gymru,” meddai Nia Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Boom Cymru.
“Mae’n fraint i gael gweithio gyda Syr Bryn Terfel, ac i greu’r 75ain addasiad o’r fformat hynod o boblogaidd yma i S4C.
“Rydym yn annog pob canwr uchelgeisiol yma yng Nghymru i wneud cais am Y Llais er mwyn arddangos eu dawn a’u helpu i wireddu eu breuddwydion.”
Er mwyn cymryd rhan yn Y Llais, rhaid cyflwyno ffurflen gais erbyn Mehefin 21. Ewch i’r wefan i wneud cais.
Bydd clyweliadau cychwynnol yn digwydd ar Orffennaf 12 yn y gogledd, ac ar Orffennaf 15 yn de.