Mae Sara Davies, enillydd Cân i Gymru eleni, wedi cyhoeddi cân arbennig i gefnogi ymgyrch i sicrhau lle i Gymru gystadlu yn yr Eurovision.
Fe fydd fideo ohoni hi’n canu fersiwn ddawns o ‘Anfonaf Angel’, cân deimladwy enwog Robat Arwyn a Hywel Gwynfryn, ar gael ar YouTube o heddiw (dydd Gwener, Mai 3) ac ar gael i’w ffrydio a’i phrynu.
Label recordiau Coco & Cwtsh o Sir Gâr sy’n gyfrifol am gynhyrchu’r gân, a’u gobaith yw y bydd cân Sara Davies yn rhoi hwb i’r ymgyrch wrth danio trafodaeth drwy’r wlad.
Roedd y fersiwn o ‘Anfonaf Angel’ ar ei newydd wedd wedi ei chynhyrchu’n wreiddiol ar gyfer Seremoni Agoriadol Gwobrau BAFTA Cymru y llynedd, mewn cydweithrediad â Coco & Cwtsh.
Ffion Emyr oedd wedi ei pherfformio ar y noson ac, ar ôl y perfformiad, dywedodd y cyflwynydd Alex Jones o’r llwyfan ei bod yn “atgof arall pam y dylai Cymru gael yr hawl i gystadlu’n annibynnol i’r Eurovision… Dylen ni ddechrau ymgyrch”.
Hepgor Cymru o Eurovision “ddim yn gwneud synnwyr”
Mae Sara Davies wedi arwyddo cytundeb gyda label Coco & Cwtsh, ac mae hi wrthi’n recordio albwm gyda nhw.
Ar ôl llwyddo ar raglen Cân i Gymru ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni gyda’i chân ‘Ti’, enillodd hi’r wobr am y Gân Ryngwladol Orau yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Ceatharlach (Carlow), Iwerddon ar Ebrill 4.
“Mae’n naturiol i mi feddwl tybed a allwn i fynd gam ymhellach a chystadlu ar y fath lwyfan rhyngwladol,” meddai’r gantores, sy’n hanu o Hen Golwyn ond yn byw nawr yn Llandysul, ac yn dysgu Cerdd, Drama a Lles yn Ysgol Henry Richard yn Nhregaron.
“Dydi o ddim yn gwneud synnwyr i mi ein bod ni ddim.
“Mae hi’n fraint bod yn rhan o ymgyrch sy’n adlewyrchu beth fyddai’n bosib petaen ni yn cystadlu, gan obeithio y bydd hyn yn gyrru’r syniad yn ei flaen.
“Mae wedi bod yn gymaint o hwyl hefyd.
“Dw i’n mawr obeithio y gwnaiff sbarduno pobol i drafod y posibilrwydd o Gymru yn cystadlu yn yr Eurovision, drwy fwynhau’r gerddoriaeth ar yr un pryd.”
Y gân a’r fideo
Mae Sara Davies yn newid ei gwisg bedair gwaith yn y fideo, ac mae yna ddigonedd o glitter, ac mae newid cyweirnod dramatig yn y gân.
“Chewch hi ddim mwy Eurovision na hyn,” meddai.
Ar y dechrau, mae hi’n eistedd wrth y piano mewn gwisg o blu gwyn, yna mae hi’n sefyll mewn ffrog sidanaidd goch, cyn ymddangos mewn ffrog felen ffrinj ddilawes, ac yn gorffen mewn ffrog fer arian fetelig ag ysgwyddau pwff.
Ystyried sefydlu cystadleuaeth Eurovision yng Nghymru
“Gallwch chi weld y math yma o gân yn cynrychioli Cymru yn yr Eurovision,” meddai Ffion Gruffudd, Prif Weithredwr Coco & Cwtsh.
“Mae’r gân yn enghraifft o’r cyfoeth o dalent cyfansoddi a chynhyrchu sydd gennym yma yng Nghymru, ynghyd â llais anhygoel Sara yn arddangos yr hyn y gallwn greu.
“Mae Coco & Cwtsh yn credu’n gryf fod gyda ni fel cenedl rywbeth arbennig i’w gynnig i’r gystadleuaeth ac na ddylen ni gael ein cyfyngu rhag cael llais ar y llwyfan pwysig hwn oherwydd materion technegol darlledu.
“Y gobaith yw y bydd Cymru gyfan yn cefnogi cân Sara eleni ac y bydd yn cael pobol i drafod, i ddychmygu ac i ymgyrchu gyda ni.”
Eu gobaith yw adeiladu ar hyn y flwyddyn nesaf ac ystyried ei throi yn gystadleuaeth go iawn, lle y gall artistiaid a cherddorion gyflwyno eu caneuon cyn penderfynu ar gân fyddai’n cynrychioli Cymru – “a mynd ati i wneud hyn yn flynyddol gan balmentu’r ffordd ar gyfer cystadlu fel cenedl,” meddai Ffion Gruffudd.
“Fel artist sydd wedi arwyddo i Coco & Cwtsh ac enillodd Cân i Gymru eleni, Sara oedd y dewis naturiol, ond pwy a ŵyr i ble y gallai hyn arwain.
“Bydden ni’n croesawu caneuon yn y Gymraeg a’r Saesneg yn y dyfodol a base hyn ddim yn gyfyngedig i enillwyr Cân i Gymru yn unig chwaith.”
Mae ‘Anfonaf Angel’ ar gael i’w phrynu ar y prif lwyfannau ffrydio, gyda fideo i gyd-fynd â’r gân ar YouTube Sara Davies ei hun, sef @saradaviesmusic.
Gallwch ddilyn yr ymgyrch ar gyfrifon cymdeithasol Sara Davies a Coco & Cwtsh, sef @cococwtsh a @saradaviesmusic a thrwy ddefnyddio’r hashnodau #Wales4Eurovison #CymruEurovision.
Bydd seremoni fawr derfynol cystadleuaeth Eurovision 2024 yn digwydd yn Arena Malmö, Sweden ddydd Sadwrn, Mai 11, gyda’r rowndiau cyn-derfynol ddydd Mawrth a dydd Iau, Mai 7 a 9.