Mae 13 o swyddi yn diflannu yng Nghyngor Celfyddydau Cymru yn sgil toriadau i’w cyllideb.
Yn ogystal ag unarddeg aelod sydd wedi derbyn diswyddiad gwirfoddol, mae dau aelod o’r Uwch Dîm Rheoli yn gadael.
Lleucu Siencyn, oedd â chyfrifoldeb dros Ddatblygu’r Celfyddydau, yw un ohonyn nhw, a Richard Nicholls, y Cyfarwyddwr Gweithrediadau, yw’r llall.
Mae Cyngor y Celfyddydau yn derbyn 10.5% yn llai o gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024/25, ac wedi gwneud “arbedion sylweddol” drwy ddiswyddiadau gwirfoddol, ailstrwythuro’r Uwch Dîm Rheoli a gwneud newidiadau mewnol.
Mae’r newidiadau hefyd yn golygu y bydd hi’n cymryd yn hirach iddyn nhw wneud rhannau o’u gwaith, meddai’r corff.
Yn ôl Cyngor y Celfyddydau, maen nhw’n hyderus na fydd rhaid iddyn nhw wneud mwy o ddiswyddiadau er mwyn arbed arian.
Mewn datganiad, dywed y Cyngor eu bod nhw’n diolch “yn ddiffuant” i’r holl staff sy’n eu gadael am yr “egni a’r angerdd wrth weithio â’r celfyddydau”, gan ddweud bod rhai o’r gweithwyr wedi bod yno ers dros ugain mlynedd.
‘Pwysau cyllidebol’
Er mwyn arbed arian, mae newidiadau’n cael eu gwneud i’w trefniadau prosesu grantiau.
Bydd penderfyniadau ar grantiau bach cronfa ‘Creu’ yn cael eu gwneud ymhen wyth wythnos yn hytrach na chwech, a bydd hi’n cymryd deg wythnos yn lle naw i wneud penderfyniadau ar grantiau mawr y gronfa.
“Mae pwysau cyllidebol ar draws ein holl weithgareddau, ac rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd ar draws ein holl grantiau, mae gan sawl cynllun lai o arian ar gael iddynt,” meddai datganiad ar eu gwefan.
“Mae’n anochel felly y bydd y broses ymgeisio am grantiau yn gystadleuol iawn.
“Gyda llai o staff, bydd yn rhaid i ni deilwra ein cymorth a rhoi’r pwyslais ar y rhai sy’n ymgeisio am y tro cyntaf a’r rhai a all wynebu rhwystrau wrth wneud cais am gyllid.
“Bydd cyfnod o addasu wrth i ni rannu cyfrifoldebau ac ad-drefnu.
“Drwy wneud yr addasiadau hyn, yn ogystal â newid y setliad ar gyfer cyllid aml-flwyddyn ac arbedion mewnol eraill, rydym yn hyderus na fydd yn rhaid gwneud rhagor o arbedion drwy ddiswyddiadau.”
Daw hyn wedi iddi ddod i’r amlwg fod 90 o swyddi mewn perygl yn yr amgueddfa genedlaethol, a bod 24 o staff wedi derbyn cynnig i ymadael yn wirfoddol yn y Llyfrgell Genedlaethol yn sgil toriadau i’w cyllid.