Mae hi bellach yn bosib gwylio rhaglenni S4C ar y gwasanaeth ffrydio newydd Freely, diolch i gydweithrediad newydd rhwng prif sianeli teledu’r Deyrnas Unedig.

Mae Freely yn gydweithrediad rhwng y BBC, ITV, Channel 4 a Channel 5 i ddiogelu teledu am ddim ar gyfer yr oes ffrydio.

Am y tro cyntaf, gall cynulleidfaoedd ffrydio sianeli teledu byw ochr yn ochr â chynnwys ar alw am ddim trwy eu setiau teledu clyfar, gan ddileu’r angen am ddysgl loeren neu aerial.

Dyma’r tro cyntaf y bydd gwylwyr gwasanaeth teledu am ddim yn gallu newid yn ddi-dor rhwng cynnwys byw ac ar alw darlledwyr blaenllaw’r Deyrnas Unedig.

Y gynulleidfa darged ar gyfer Freely yw cartrefi rhyngrwyd yn unig, sy’n cyfateb i oddeutu pedair miliwn ar draws y Deyrnas Unedig, ond mae’r nifer yn tyfu’n gyflym, yn ôl Freely.

Hisense yw partner teledu clyfar Freely, sy’n gyfrifol am ddod â setiau teledu i’r farchnad.

‘Dangos creadigrwydd a thalent Cymru’

“Rydym yn falch o allu dod â rhaglenni Cymraeg i gynulleidfa newydd ar Freely,” meddai Elin Morris, Prif Swyddog Gweithredol S4C.

“Byddwn yn gallu dangos y creadigrwydd a’r dalent sydd gennym yng Nghymru i gartrefi ledled y Deyrnas Unedig.

“Bydd gwylwyr yn gallu gwylio rhaglenni dogfen, drama, newyddion a chwaraeon yn fyw ac ar alw.”

Bydd setiau teledu Freely ar gael mewn siopau mawr ar draws y Deyrnas Unedig ac ar-lein.