Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Wyn Lodwick, un o sêr y byd jazz yng Nghymru, fu farw yn 97 oed yr wythnos ddiwethaf.

Roedd yn adnabyddus am chwarae’r clarinet.

Fe oedd “Mr Jazz Cymru” i’w ffrindiau, ac fe ysgrifennodd ei hunangofiant, Wyn a’i fyd: Atgofion a Straeon.

Mae wedi’i ddisgrifio fel dyn oedd yn “caru pobol”.

Hanes

Cafodd Wyn Lodwick ei eni yn Llanelli yn 1927 a bu’n byw yn y Pwll ger Llanelli.

Yn 1950, sefydlodd e glwb jazz yn Llanelli, gan gynnal nosweithiau yng ngwestai’r Dock, y Melbourne, y White Hart a’r Stepney.

Bu’n chwarae gyda’r Harlem Blues and Jazz Band ddwy neu dair gwaith y flwyddyn.

Bu iddo gyfarfod nifer o enwogion y byd jazz yn ystod ei yrfa, gan gynnwys Louis Armstrong.

Bu’n ymddangos yn gyson yn Theatr Elli, ac fe ymddangosodd ar nifer fawr o raglenni teledu a radio.

Daeth yn gyfarwyddwr Cymdeithas Jazz Cymru, ac roedd yn un o sylfaenwyr Gŵyl Jazz Cymru a Gŵyl Jazz Aberhonddu.

Cafodd ei urddo i’r Orsedd gyda’r Wisg Werdd yn Eisteddfod Sir Fynwy 2016.

Gwasanaethodd fel technegydd yn y Llynges Frenhinol hefyd.

Dyn ‘eccentric’ a ‘chwbl annwyl’

Lyn Ebenezer, y cyflwynydd ac awdur, fu’n gyfrifol am ddogfennu bywyd Wyn Lodwick ar ffurf hunangofiant a’i gyfieithu i’r Saesneg.

Daeth y ddau yn ffrindiau yn ystod yr 1990au.

“Fe oedd Mr. Jazz Cymru i fi,” meddai’r awdur wrth golwg360.

“Jazz traddodiadol, jazz Efrog Newydd, oedd ei bethau yn fwy na jazz New Orleans.

“Ond i fi, diddordeb mewn pobol oedd gyda fe’n fwy na dim.

“Mae’n anodd meddwl am neb ffeindiach na Wyn… Cwbl annwyl.

“Dw i ddim yn credu fy mod i wedi cyfarfod neb mwy annwyl na Wyn.

“Dw i ddim yn credu bod neb yn y byd â gair gwael amdano fe.

“Doedd dim owns o ddrwg ynddo fe.

“Roedd e’n ddyn arbennig ac yn caru pobol.

“Roedd e’n ecsentrig, a dweud y gwir, ac fel pobol ecsentrig, doedd e ddim yn sylweddoli hynny.

“Dyma brawf ei fod yn ecsentrig. Pan oedden ni’n teithio draw i America gyda’n gilydd ryw dro yn y ’90au, fe gododd yr awyren yn Heathrow, ac fe gododd yntau.

“Aeth e rownd pawb ar yr awyren i gael sgwrs gyda nhw.

“Fe yw’r unig ddyn fi’n gwybod amdano sydd wedi cerdded yr holl ffordd o Lundain i Efrog Newydd!

“Dyna fel oedd e – roedd ei ddiddordeb mewn pobol yn arbennig.

“Os oedd e’n cwrdd â rhywun am y tro cyntaf, byddai e’n eu holi nhw a’u holi nhw am bwy oedden nhw ac o le oedden nhw’n dod.”

Er mwyn casglu mwy o wybodaeth am Wyn Lodwick ar gyfer yr hunangofiant, penderfynodd Lyn fod yn rhaid ei ddal ar ben ei hun.

“Yr unig ffordd wnaethon ni ddod dros bobol yn torri ar draws ein sgyrsiau, gan fod Wyn yn siaradus, oedd bod ganddo fe gwch yn Puerto Pollensa ym Majorca.

“Aethon ni allan am wythnos, dim ond fi a fe ar y cwch.

“Roedden ni’n gweithio ryw bum neu chwe awr y dydd, ac roedden ni’n cael llonydd wedyn heb neb yn torri ar draws.”