Dyma eitem lle mae siaradwyr newydd yn cael cyfle i adolygu eu hoff raglenni ar S4C gan ddweud beth sydd wedi helpu nhw ar eu taith i ddysgu Cymraeg. Y tro yma, Shaun Jones o Ruthun, Sir Ddinbych, sydd wedi ysgrifennu adolygiad o’r rhaglen Gogglebocs Cymru ar S4C.
Mae Shaun wedi bod yn dysgu Cymraeg ers pedair blynedd. Dechreuodd ddysgu am fod ei ferch yn cael addysg Gymraeg ac mae ganddo ffrindiau sy’n siarad yr iaith.
Shaun, beth ydy dy hoff raglen ar S4C a pam wyt ti’n ei hoffi?
Fy hoff raglen ar S4C yw Gogglebocs Cymru.
Pam wyt ti’n hoffi’r rhaglen?
Dwi’n hoffi Gogglebocs Cymru achos mae’r bobl yn siarad Cymraeg mewn ffordd dw i’n gallu deall fel arfer. Mae’n anffurfiol iawn ac weithiau maen nhw’n siarad Saesneg.
Weithiau dw i’n ei chael hi’n anodd gwybod pa raglenni ar S4C fyswn i’n hoffi gwylio, ac mae Gogglebocs Cymru yn rhoi awgrymiadau da o ran beth i’w wylio.
Beth wyt ti’n feddwl o’r rhai sy’n cymryd rhan?
Mae’r bobl sy’n cymryd rhan ar Gogglebocs Cymru yn ddoniol iawn.
Pam mae’r rhaglen yn dda i bobl sy’n dysgu Cymraeg?
Mae’r bobl ar Gogglebocs Cymru yn byw mewn gwahanol rannau o Gymru sy’n golygu fy mod i’n gallu gwrando ar dafodieithoedd ac acenion gwahanol. Felly mae hon yn rhaglen dda iawn i ddysgwyr a byddwn yn argymell Gogglebocs Cymru i ddysgwyr eraill.
Mae ail gyfres Gogglebocs Cymru ar S4C Clic a BBCiPlayer