Mae Mark Drakeford wedi bod yn siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf ers iddo fe adael ei swydd yn Brif Weinidog Cymru.
Mewn araith i’r felin drafod Resolution Foundation, mae’r cyn-Brif Weinidog wedi bod yn trafod dyfodol perthynas cyfansoddiadol Cymru â’r Deyrnas Unedig.
“Un o’r cwestiynau anniddorol sy’n cael ei ofyn fwyaf yw – onid yw Cymru yn Indy-curious? A’r rheswm ei fod yn gwestiwn anniddorol yw oherwydd ei fod yn amlwg ddim yn wir,” meddai.
Er mwyn cefnogi ei ddadl, cyfeiriodd at berfformiad Plaid Cymru yn ystod etholiad diwethaf Senedd Cymru.
“Yn 2021, roedd annibyniaeth ym mlaen a chanol agenda Plaid Cymru yn ystod yr ymgyrch – ‘pleidleisiwch drosom ni am Gymru annibynnol’ – a chafodd Plaid Cymru eu canlyniad gwaethaf mewn unrhyw etholiad ers 1999,” meddai.
“Felly, y cwestiwn diddorol i fi ydy, gyda’i holl amherffeithrwydd a phetruso, pam fod y cyhoedd yng Nghymru yn dal mor gefnogol i fodel 1999?”
Rhybudd i undebwyr
Er bod Mark Drakeford wedi bod yn feirniadol o’r farn fod diddordeb mawr mewn annibyniaeth yng Nghymru, mae’n cydnabod fod yn rhaid i’r Deyrnas Unedig esblygu er mwyn cadw’r cwestiwn dros y dyfodol allan o’r brif drafodaeth.
“Y risg mwyaf [i’r Undeb] ydy’r teimlad gorfoleddus mewn rhannau o’r sbectrwm gwleidyddol fod hyn rywsut yn broblem sydd ddim drosodd; dydy e’n sicr ddim.
“Os nad yw hyn yn derbyn sylw, mae pob tebygolrwydd y bydd rhywbeth sydd yn argyfwng wedi’i atal heddiw yn newid i fod yn argyfwng ar yr arwyneb yn y Deyrnas Unedig.”
Er bod Mark Drakeford yn cydnabod nad yw’r argyfwng mor berthnasol o gymharu ag ychydig flynyddoedd yn ôl o dan Lywodraeth Boris Johnson yn San Steffan, mae’r ffaith ei fod yn dal i ddisgrifio’r sefyllfa fel ‘argyfwng’ yn awgrymu ei fod o’r farn fod y berthynas gyfansoddiadol ar draws y Deyrnas Unedig yn fater brys.
“Mae’r hyn sydd ei angen ar Gymru, a’r hyn sydd ei angen ar y Deyrnas Unedig, os ydym am barhau i lwyddo gyda’n gilydd, yn gallu cael ei ddarganfod o fewn adroddiadau sydd ar gael i Lywodraeth Lafur sy’n dod i mewn i rym yn San Steffan,” meddai.
“Mae e yna yn Adroddiad Brown, mae e yna yn y Confensiwn Cyfansoddiadol gafodd ei gomisiynu yng Nghymru.
“Hynny yw, mae’n rhaid cael datganoli sydd wedi’i wreiddio ac sydd yn gallu cael ei amddiffyn yn erbyn llywodraethau fel yr un rydym wedi’i gweld ers 2019.”
Daeth ei araith i ben wrth iddo ddweud na ddylai unrhyw gytundebau datganoledig yn y dyfodol gael eu hystyried yn brosiectau unigol i’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, a bod yn rhaid ystyried Lloegr hefyd.