Mae dwy bleidlais yn y Senedd – un gan Blaid Cymru am roi cap ar roddion, a’r llall gan y Ceidwadwyr Cymreig yn galw am benodi ymgynghorydd annibynnol i gynnal ymchwiliad – wedi methu.

Yn ystod y bleidlais heno (nos Fercher, Mai 1), mae mwyafrif o Aelodau’r Senedd wedi pleidleisio yn erbyn y ddau gynnig. 

Er bod y bleidlais yn fuddugoliaeth i raddau i Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru, galwodd yr Aelod Llafur Lee Waters arno i “wneud y peth iawn” a rhoi’r £200,000 yn ôl.

Mae’r rhan fwyaf o’r cwestiynau ynglŷn â rhoddion wedi dod yn sgil taliad i ymgyrch arweinyddol Vaughan Gething gan gwmni Dauson Environmental Group, ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod David Neal, pennaeth y cwmni, wedi’i gael yn euog o droseddau amgylcheddol.

Mae cwestiynau hefyd wedi’u codi ynglŷn â rhoddion ariannol dderbyniodd e gan gwmni tacsis Veezu, sy’n wynebu beirniadaeth yn sgil honiadau o amodau gwaith gwael a gwahaniaethu yn erbyn pobol ag anableddau.

Dwy bleidlais

Yn ôl cynnig y Ceidwadwyr Cymreig, roedden nhw’n “galw ar y Prif Weinidog i benodi ymgynghorydd annibynnol i’r cod gweinidogol i ymchwilio i unrhyw wrthdaro buddiannau allai fodoli mewn perthynas â’r rhodd, gan gyfeirio’n benodol at bwyntiau i a ii o baragraff 1.3 o’r cod gweinidogol”.

Fe wnaeth 25 aelod bleidleisio o blaid y cynnig, gyda’r Llywodraeth yn pleidleisio yn erbyn (27).

Roedd cynnig Plaid Cymru’n gofyn bod Aelodau’r Senedd yn “cytuno y dylid gosod uchafswm blynyddol ar y rhoddion gwleidyddol y gall unrhyw Aelod unigol o’r Senedd eu derbyn gan unrhyw unigolyn neu endid”.

Pleidleisiodd unarddeg aelod o Blaid Cymru o blaid y cynnig, gyda’r Ceidwadwyr yn ymatal a’r Llywodraeth Lafur yn pleidleisio yn erbyn, gyda 27 pleidlais.

Eglurodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ei fod e eisiau archwilio syniad y cap ar roddion ymhellach cyn y byddai’n fodlon pleidleisio o blaid y cynnig.

Teimladau cryf

Roedd cryn densiwn yn y Senedd drwy gydol y prynhawn, gydag aelodau o’r tri phrif blaid yn siarad yn gryf o blaid hawl, ac yn erbyn penderfyniad y Prif Weinidog i dderbyn y rhoddion.

Doedd Vaughan Gething ddim yn bresennol yn ystod y naill ddadl na’r llall i ateb cwestiynau gan Aelodau’r Senedd, gan gyrraedd y Siambr tua diwedd yr ail ddadl.

“Mae’n siomedig iawn fod y Prif Weinidog wedi chwipio’i Aelodau o’r Senedd i atal craffu o roddion i’w ymgyrch,” meddai Andrew RT Davies.

“Mae gan bobol ledled Cymru gwestiynau difrifol am yr arian hwn, ond dydy Vaughan Gething ddim yn barod i ddod i’r Senedd i glywed y ddadl amdano.

“Yn lle osgoi cwestiynau yn drahaus, dylai’r Prif Weinidog wrando ar bobol ar bob ochr a thynnu llinell o dan y saga yma gydag ymchwiliad annibynnol.”

Doedd Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, ddim yn hapus chwaith ag absenoldeb y Prif Weinidog.

“Dw i angen nodi pa mor ryfeddol ydi hi fod y Prif Weinidog ei hun ddim yma i wrando ar y ddadl hon prynhawn yma,” meddai.

“Pris arferol tŷ yng Nghymru yw £225,000 ac felly mi gewch chi brynu tŷ efo hynny, neu ddefnyddio swm tebyg i wneud cais i fod yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru.

“Mae o mor siomedig fod Llafur yn ceisio cael gwared ar ein cynnig yn llawn, yn ymddangos eu bod nhw’n gwrthod unrhyw uchafswm rhoddion heb ddweud eu bod nhw hyd yn oed yn hapus i archwilio’r syniad.”

Dychwelyd yr arian

Wrth siarad o’r meinciau cefn, roedd Lee Waters, yr Aelod Llafur, yn glir ei farn fod yn rhaid rhoi’r arian yn ôl.

“Dw i’n anghyfforddus iawn gyda’r ffordd mae disgwyl i fi, mewn gwirionedd, gymeradwyo rhywbeth dw i’n meddwl sydd yn anghywir,” meddai.

“Fyddai e ddim yn arwydd o wendid i ddweud ei fod yn gamgymeriad cymryd y rhodd, a nawr bod yr holl ffeithiau’n glir, i roi’r arian yma yn ôl.”

‘Rhagrith’

Hefyd ar y meinciau cefn, fe wnaeth Hefin David, Aelod Llafur Caerffili, amddiffyn penderfyniad y Prif Weinidog drwy ymosod ar benderfyniadau pleidiau gwleidyddol eraill i dderbyn arian, ac fe wnaeth e eu galw nhw’n “rhagrithiol”.

“Mae’n rhaid cofio bod sancteiddrwydd yn gefnder agos i ragrith, ac os ydych chi’n ymgysylltu â sancteiddrwydd, buan y byddwch chi’n taro i mewn i ragrith, fel sydd wedi digwydd i Blaid Cymru heddiw,” meddai.

Dadansoddiad Rhys Owen:

“Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod o deimladau cymysg i Vaughan Gething ac o ansicrwydd i’w arweinyddiaeth.

“Ar ddiwrnod lle’r oedd e efallai’n disgwyl i’r ffrae tros roddion leihau ar ôl dwy fuddugoliaeth i drechu cynigion yn ymwneud â rhoddion, mae’n glir fod teimladau cryf yn dal yn bodoli o fewn y gwrthbleidiau – ac o fewn ei blaid ei hun hefyd.”