Mae angen i Gyngor Sir Ceredigion gydweithio â chymunedau gwledig yn sgil pryderon dros ad-drefnu ysgolion cynradd y sir, medd Cymdeithas yr Iaith.
Mae pryderon mewn sawl ardal o’r sir wrth i’r Cyngor ddweud eu bod nhw’n edrych ar ddechrau’r adolygu sefyllfa eu hysgolion cynradd.
Yn ôl BBC Cymru, mae un cynghorydd sir, Gwyn Wigley Evans, wedi dweud bod dyfodol wyth ysgol yn cael ei ystyried.
Mewn ymateb i’r pryderon, dywed Jeff Smith, Cadeirydd Rhanbarth Ceredigion Cymdeithas yr Iaith, fod angen i’r Cyngor weithio gyda chymunedau gwledig all gael eu heffeithio.
“O ystyried bod chwalfa cymunedau Cymraeg a diboblogi gwledig ymysg prif yrwyr dirywiad yr iaith Gymraeg yng Ngheredigion, mae asedau cymunedol megis ysgolion gwledig – sydd yn aml wrth galon y cymunedau hyn – yn bwysicach nag erioed,” meddai.
“Mewn unrhyw gynlluniau ad-drefnu galwn ar y Cyngor i gydweithio gyda’n cymunedau er mwyn sicrhau dyfodol ffyniannus i’r cymunedau hynny a’r Gymraeg.”
Yn ôl yr adroddiadau, ysgolion Llangwyrfon, Bronant a Llangeitho, dwy sydd ar un campws yn Rhos Helyg, ydy tair o’r rhai fydd yn cael eu hystyried.
‘Hynod bryderus’
Wrth ymateb i’r newyddion, dywed Tom Giffard, llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, ei bod hi’n “hynod bryderus” y gallai ysgolion ledled yr ardal gau “oherwydd camreolaeth Llafur o’r gyllideb”.
“Mae’r Llywodraeth Lafur wedi goruchwylio dirywiad mewn safonau dros eu 25 mlynedd mewn grym a drwy gwtogi cyllidebau ysgolion mewn termau real a thermau cyfalaf, mae awdurdodau lleol ac ysgolion yn cael trafferth cael deupen llinyn ynghyd,” meddai.
“Bydd y Ceidwadwyr Cymreig wastad yn dal Llafur yn atebol am eu methiannau.”
Roedd Tom Giffard wedi cynnig y pwnc fel cwestiwn amserol yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Mai 1), ond dydy’r cwestiwn heb gael ei ddewis.
‘Cyfnod o heriau sylweddol’
Y cam cyntaf fydd cyflwyno papur cynnig i’r Cabinet yn gynnar ym mis Gorffennaf eleni sy’n nodi rhai o’r posibiliadau ar gyfer cwrdd â’r heriau, meddai’r Cyngor.
“Fel rhan o gynlluniau’r awdurdod i sicrhau is-adeiledd effeithlon a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol rydym yn edrych i ddechrau’r broses o adolygu’r sefyllfa o safbwynt ein hysgolion cynradd,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion.
“Y cam cyntaf fydd i gyflwyno papur cynnig i’r Cabinet yn gynnar ym mis Gorffennaf eleni sy’n nodi rhai posibiliadau ar gyfer cwrdd â’r heriau sylweddol sy’n bodoli ar draws ein gwasanaethau.
“Mi fyddai’n amhriodol i ni fanylu ar nifer o ysgolion, arbedion posib ac ati tan fod y broses wedi cychwyn yn swyddogol a’r holl rhanddeiliaid wedi eu hysbysu drwy’r broses gywir.
“Mae hwn yn gyfnod o heriau sylweddol i ysgolion a’r cyngor ac rydym am gydweithio er mwyn sicrhau ein bod yn gweithredu mor effeithlon â phosib.
“Ni fyddwn yn gwneud unrhyw sylwadau pellach ar y mater hwn a byddwn yn glynu’n agos at Gôd Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru. Bydd pob papur sy’n gysylltiedig â’r Côd yn cael ei gyhoeddi cyn cyfarfodydd Craffu a Chabinet yn y modd arferol.”
‘Blaenoriaethu gwasanaethau rheng flaen’
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod eu cyllideb ar gyfer 2024/25 bellach yn werth £700m yn llai mewn termau real na phan gafodd ei phennu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn 2021.
“Er gwaethaf hyn, rydyn ni wedi blaenoriaethu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen craidd, gan gynnwys ysgolion, drwy ddiogelu’r cynnydd dangosol ar gyfer y setliad llywodraeth leol,” meddai.
“Bydd setliad terfynol 2024-25 yn darparu 3.3% yn ychwanegol i awdurdodau lleol, ar ben y cynnydd cyfunol o 7.9% ar gyfer 2023-24.
“Awdurdodau lleol sy’n penderfynu ar swm y cyllid sy’n cael ei neilltuo ar gyfer cyllidebau ysgolion, a byddwn yn parhau i weithio gyda’r sector i sicrhau’r deilliannau gorau posibl i’n dysgwyr.”