Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr (dydd Mercher, Mai 1), mae ymgyrchwyr heddwch wedi bod yn protestio tu allan i ffatri sy’n cyflenwi arfau yn Sir Fynwy.

BAE Systems ydy’r cwmni cynhyrchu arfau mwyaf yng ngwledydd Prydain, ac maen nhw’n creu 15% o’r rhannau ar gyfer awyrennau F-35, sy’n cael eu defnyddio gan Israel.

Mae ymgyrchwyr Cynghrair Heddwch Cymru wedi bod yn rhwystro’r ffordd i’w ffatri yng Nglascoed eto fore heddiw (dydd Mercher, Mai 1).

Roedd ymgyrchwyr eraill yn ymgyrchu ger ffatrïoedd y cwmni yn Swydd Gaerhirfryn ac yn Glasgow hefyd.

Mae miloedd o weithwyr ac undebwyr yn ymgyrchu heddiw yn erbyn cwmnïau sy’n elwa ar ymosodiadau Israel ar Gaza.

Yn y ffatri yng Nglascoed, mae BAE Systems yn cynhyrchu a phacio cregyn 155mm ar gyfer magnelau.

‘Nid yn ein henwau ni’

Mae Cynghrair Heddwch Cymru ymysg y rhai sydd wedi ateb galwad undebau llafur Palesteina am weithredu ledled y byd i stopio arfogi Israel, sydd wedi bod yn ymosod ar Gaza ers i Hamas ymosod arnyn nhw ar Hydref 7.

“Mae teuluoedd yn cael eu targedu gan fomiau yn Gaza; wrth ddal fflagiau gwyn, chwilio am gymorth neu gysgu mewn llety dros dro,” meddai Simone, cynorthwyydd iechyd sydd wedi bod yn ymgyrchu yn Sir Fynwy heddiw, gan ychwanegu bod rhannau o’r arfau’n cael eu gwneud yng Nghymru.

“Rydyn ni’n dweud, ‘nid yn ein henwau ni’.

“Tra bo Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud dim – fe wnawn ni weithredu.

“Rydyn ni wastad wedi bod yn falch o sefyll yn erbyn gwladychu a thros heddwch – fel mae deiseb Heddwch Menywod Cymru’n ei ddangos, bydden nhw’n falch o’n gweithredoedd.”

‘Torri’r distawrwydd’

Roedd ymgyrchwyr heddwch lleol, gweithwyr, ac aelodau o Black Lives Matter a Palestine Solidarity yn rhan o’r brotest heddiw, fu’n rhwystro dwy fynedfa i’r ffatri yng Nglascoed am sawl awr.

“Drwy rwystro mynediad i’r ffatrïoedd rydyn ni’n rhoi stop ar gynhyrchu arfau ac, fel gydag apartheid De Affrica, stopio’r gefnogaeth i’r drefn apartheid,” meddai Michael, gweithiwr cymunedol oedd yn y brotest.

“Ers dros 50 mlynedd, mae Palesteina wedi cael ei goresgyn, dyma sut all pobol Cymru helpu i godi’r gwarchae.

“Rhaid i ni dorri’r distawrwydd.

“Rydyn ni’n credu bod gan weithwyr yn y ffatri hon rôl hanfodol wrth stopio hil-laddiad, ac rydyn ni’n galw arnyn nhw i ymuno efo’r gweithwyr yn fan hyn ac mewn gwledydd eraill sy’n gwrthod creu a chludo arfau i Israel.”

Ymgyrchwyr yn rhwystro’r ffordd tu allan i ffatri BAE Systems yng Nglascoed

‘Stopio’r peiriant rhyfel’

Dywed llefarydd ar ran Stopio’r Rhyfel Caerdydd eu bod nhw’n mynnu cadoediad ar unwaith, ac eisiau gweld arfau’n stopio cael eu hallforio i Israel.

“Mae Israel wedi lladd dros 35,000 o Balesteiniaid, plant a menywod yn bennaf, dros y chwe mis diwethaf,” meddai.

“Mae tystiolaeth o droseddau rhyfedd Israel yn amlwg.

“Mae undebau llafur Palesteinaidd wedi gwneud galwad ryngwladol i bobol weithredu a rhoi stop ar beiriant rhyfel Israel, ac rydyn ni’n annog pawb i ymuno â ni yn yr alwad hon.”

Fe wnaeth Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru, gadarnhau yn y Senedd yr wythnos ddiwethaf fod ei lywodraeth yn cefnogi cadoediad ar unwaith.