Mae cynlluniau i ehangu’r Senedd a newid y system bleidleisio wedi symud gam ymhellach, ond mae Aelodau o’r Senedd wedi bod yn galw am fesurau i fynd i’r afael â diffyg atebolrwydd.
Fe wnaeth y Senedd bleidleisio ar ddiwygiadau i’r Bil Aelodau ac Etholiadau ddoe (dydd Mawrth, Ebrill 30), bil sy’n golygu bod maint y Senedd am gynyddu o 60 aelod i 96.
Dan y bil, bydd y 32 etholaeth yn yr etholiad cyffredinol nesaf yn cael eu paru i greu 16 etholaeth ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026 – a phob un yn ethol chwe aelod.
Fodd bynnag, cafodd cynigion i gyflwyno system adalw a’i gwneud hi’n anghyfreithlon i Aelodau’r Senedd neu ymgeiswyr gamarwain y cyhoedd yn fwriadol eu tynnu’n ôl funud olaf.
Fe wnaeth Aelodau’r Senedd gynnal dadl dair rhan ddoe, a hwnnw oedd y cyfle olaf i ddiwygio’r bil cyn y bleidlais yr wythnos nesaf.
‘Gwella ffydd y cyhoedd’
Fe wnaeth Adam Price, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, alw am ei gwneud hi’n drosedd i Aelodau o’r Senedd neu ymgeiswyr gamarwain pobol ar bwrpas, gyda chosb o gael eu gwahardd.
Rhybuddiodd cyn-arweinydd y blaid fod hyder y cyhoedd mewn gwleidyddiaeth yn gostwng ledled y byd.
“Rydyn ni’n edrych ar ddyfodol o deepfakes, gwleidyddiaeth ôl-wir, a thon ar ôl ton o gamwybodaeth,” meddai.
Dywedodd Aelod o’r Senedd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr mai’r cynnig fyddai’r cyntaf o’i fath yn y byd.
“Rhaid i ni wneud rhywbeth, ac mae’n rhaid i ni wneud rhywbeth ar frys,” meddai.
Fe wnaeth Darren Millar, Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Orllewin Clwyd, gefnogi’r diwygiad gan ddweud ei bod hi’n anghyfreithlon i feddyg gamarwain claf, felly pam ddylai pethau fod yn wahanol i wleidyddion.
Er bod Lee Waters, yr Aelod Llafur, yn amheus o’r diwygiad i ddechrau, cefnogodd y diwygiad “rhesymol” yn y diwedd.
Roedd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, o blaid hefyd, a dywedodd fod arolwg yn 2021 yn dangos bod 63% o bleidleiswyr yn meddwl bod gwleidyddion yn “edrych ar ôl eu hunain”, o gymharu â’r 48% oedd yn credu hynny yn 2014.
Dywedodd Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, fod angen dadansoddiad cyfreithiol pellach er mwyn osgoi goblygiadau anfwriadol.
Pwysleisiodd Mick Antoniw, sy’n gyfrifol am y bil, bwysigrwydd rhoi rhyddid i aelodau siarad, ac awgrymodd nad oes gan Gymru’r pwerau i greu’r fath drosedd.
Tynnodd Adam Price y diwygiad yn ôl, gan ddweud nad oedd eisiau difetha’r consensws drwy orfodi pleidlais, ond fod rhaid i’r Senedd ddeddfu yn ystod y tymor seneddol hwn.
System adalw aelodau
Fe wnaeth Darren Millar alw wedyn am system adalw, fyddai’n caniatáu i bleidleiswyr gael gwared ar Aelod o’r Senedd rhwng etholiadau – system debyg i’r un gafodd ei chyflwyno yn San Steffan ar ôl y sgandal costau.
Dywedodd yr Aelod Ceidwadol y byddai’r system yn bwysig er mwyn gweithredu atebolrwydd.
“Byddai’n sicrhau bod ffydd ac atebolrwydd wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud – nid yn unig ar amser etholiad ond drwy gydol cyfnod aelodau yn y swydd,” meddai.
Roedd hi’n ymddangos ei fod yn cyfeirio at Rhys ab Owen, sydd wedi cael ei wahardd o’r Senedd am 42 diwrnod heb dâl, pan ddywedodd fod y materion hyn “o ddiddordeb i’r cyhoedd nawr”.
Dywedodd Vikki Howells, sy’n cadeirio Pwyllgor Safonau’r Senedd, y byddan nhw’n gweithio ar argymhellion ynglŷn â system adalw fel rhan o ymchwiliad ehangach ar atebolrwydd.
Cytunodd Jane Dodds y byddai system adalw yn “gam hollbwysig” i fynd i’r afael â’r diffyg ffydd ymysg y cyhoedd.
Cododd bryderon Cynulliad y Bobol ar Ddemocratiaeth am “ddiwylliant gwleidyddol cywilyddus o anonestrwydd a diffyg goblygiadau difrifol am ymddygiad gwael”.
Dywedodd Jane Dodds, gafodd ei hethol i San Steffan yn 2019 yn sgil is-etholiad gafodd ei gynnal gan fod ei rhagflaenydd wedi cael ei adalw, fod Boris Johnson wedi ymddiswyddo yn sgil y bygythiad o gael ei adalw.
Fyddai Llywodraeth Cymru ddim yn pleidleisio o blaid y diwygiadau, meddai Mick Antoniw, ond dywedodd fod gweinidogion yn barod i gefnogi’r system ar argymhelliad y pwyllgor.
Fe wnaeth Darren Millar dynnu’r diwygiad yn ôl yn sgil yr ymchwiliad trawsbleidiol, ond rhybuddiodd fod amser yn mynd yn brin i gyflwyno system adalw cyn etholiad 2026.
‘Cipio grym’
Yn ystod y sesiwn ddoe, fe wnaeth y Senedd bleidleisio yn erbyn galwadau am refferendwm ac i newid y System Rhestrau Caeëdig sy’n cael ei gynnig.
Bydd y System Rhestrau Caeëdig yn golygu bod pobol yn pleidleisio dros bleidiau yn hytrach nag unigolion.
Awgrym Darren Millar oedd cyflwyno System Rhestrau Hyblyg, fyddai’n rhoi mwy o lais i’r cyhoedd dros bwy fyddai’n cael eu hethol, meddai.
Disgrifiodd y rhestrau caeëdig fel ffordd o “gipio grym”, allai ddifetha democratiaeth Cymru.
Rhybuddiodd y gallai llai fyth o bobol bleidleisio yn etholiadau’r Senedd os oes ganddyn nhw lai o lais o ran pwy fydd yn eu cynrychioli.
Esboniodd Darren Millar y byddai rhestrau hyblyg yn rhoi mwy o ddewis i bleidleiswyr, gydag unrhyw ymgeisydd sy’n derbyn mwy na 10% o’r bleidlais yn symud i frig y rhestr.
Ar ran Plaid Cymru, dywedodd Heledd Fychan fod ei phlaid yn dal i ffafrio System Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy, sy’n caniatáu i bobol osod eu hymgeiswyr mewn trefn, neu’r System Rhestrau Hyblyg.
Ond pwysleisiodd fod angen bod yn ymarferol a chyfaddawdu, gan fod angen mwyafrif o dau draean i basio’r bil drwy’r Senedd.
Fe wnaeth Heledd Fychan groesawu’r ffaith mai Cymru fydd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i symud oddi wrth y Sytem Cyntaf i’r Felin “niweidiol” sy’n cael ei defnyddio yn San Steffan.
Dywedodd Mick Antoniw y byddai etholiadau yn y dyfodol yn fwy cyfrannol na’r system bresennol, sy’n defnyddio cymysgedd o System Cyntaf i’r Felin ar gyfer etholaethau a rhestrau i’r rhanbarthau.
Bydd Aelodau’r Senedd yn cynnal dadl derfynol ar fersiwn ddiwygiedig y bil ar Fai 8.