Mae Vaughan Gething dan y lach unwaith eto, ar ôl derbyn rhoddion gan gwmni Veezu, sy’n rhedeg tacsis yng Nghaerdydd.

Daeth i’r amlwg fod y cwmni wedi gwrthod mynediad i Ryan Moreland, dyn â chi tywys oedd yn aros i fynd i’r ysbyty am driniaeth.

Rhoddion yw’r pwnc sydd wedi dominyddu chwe wythnos gyntaf Prif Weinidog Cymru yn y swydd.

Roedd e eisoes wedi cyhoeddi bod Carwyn Jones, y cyn-Brif Weinidog, wedi’i benodi i gynnal arolwg Llywodraeth Cymru o ymgyrchoedd arweinyddol, sy’n cynnwys rhoddion ariannol.

Mae rhan fwya’r cwestiynau ynglŷn â rhoddion wedi dod yn sgil taliad o £200,000 gan gwmni Dauson Environmental Group, ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod David Neal, pennaeth y cwmni, wedi’i gael yn euog o droseddau amgylcheddol.

Yn ôl cofrestr rhoddion a bencythiadau’r Comisiwn Etholiadol, fe wnaeth Vaughan Gething hefyd dderbyn £25,000 gan Veezu Holding Limited tuag at ei ymgyrch ar Chwefror 15.

Cyfarwyddwr Veezu yw Nathan Iestyn Bowles, oedd hefyd yn ysgrifennydd i Smart Solutions pan gafodd £20,000 ei roi i Vaughan Gething yn ystod ymgyrch arweinyddol 2018, gafodd ei hennill gan ei ragflaenydd Mark Drakeford.

Protest yn erbyn amodau gwaith Veezu yn Sheffield

Mae gyrwyr yn Sheffield wedi bod yn protestio yn erbyn cwmni Veezu y tu allan i’w pencadlys yno.

Wrth siarad â’r Sheffield Star, mae gyrwyr wedi bod yn cwyno eu bod nhw’n cael eu “trin yn wael”, ac wedi cael eu defnyddio fel “arbrofion mewn strwythur ariannu newydd i gael mwy o arian allan ohonyn nhw”.

Mae Veezu wedi newid eu strwythur ariannu, lle maen nhw’n derbyn 35% o’r arian mae gyrwyr yn ei gael gan deithwyr ac mae’r ffigwr yn amrywio yn ôl nifer y teithiau maen nhw’n eu cwblhau bob wythnos.

Mae Uber yn derbyn 25% o’r arian mae gyrwyr yn ei gael gan deithwyr.

Vaughan Gething dan bwysau

Yn ystod Cyfarfod Llawn y Senedd ddoe (dydd Mawrth, Ebrill 30), gofynnodd Julie Morgan, Aelod Llafur o’r Senedd dros Ogledd Caerdydd lle mae Ryan Moreland yn byw, i Vaughan Gething gondemnio triniaeth un o yrwyr Veezu o’r teithiwr.

Fe wnaeth y cwmni ganslo ei daith o Riwbeina i Ysbyty Athrofaol Caerdydd ar ôl gweld ei gi tywys a gwrthod mynediad iddo.

Dywedodd y Prif Weinidog ei fod e’n teimlo “braw gwirioneddol” o glywed yr hanes, a bod y Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno hyfforddiant cydraddoldeb anabledd cenedlaethol i yrwyr tacsi.

Mae Veezu bellach wedi tynnu’r gyrrwr oddi ar eu rhestr o yrwyr.

Datgan buddiannau

Yn dilyn yr helynt, gofynnodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, i’r Prif Weinidog ddatgan buddiant gerbron y Senedd yn sgil y rhoddion ariannol dderbyniodd e gan Veezu tuag at ei ymgyrch arweinyddol.

“Gwnaeth Veezu Holdings Limtied gyfraniad,” meddai Vaughan Gething.

“Mae hyn wedi’i ddatgan yn ffurfiol ac yn y modd priodol.

“Does yna ddim cysylltiad rhwng unrhyw benderfyniad mae’r llywodraeth yma yn ei wneud a’r hyn sydd wedi digwydd yn yr ymgyrch arweinyddol.

“Dw i heb wneud unrhyw fath o benderfyniad gweinidogol sy’n ymwneud â’r cwmni.”

Gwasanaeth hollol erchyll

Mae cwmni Veezu hefyd wedi bod dan y lach yn y South Wales Argus, yn dilyn adroddiadau eu bod nhw wedi darparu gwasanaeth “hollol erchyll” i Michelle Griffiths, sydd yn gorfod defnyddio cadair olwyn.

“Dw i’n tueddu i archebu tacsis ymlaen llaw er mwyn rhoi digon o rybudd,” meddai.

“Ond maen nhw un ai yn canslo munud olaf neu mae’r gyrwyr yn gweld fy nghadair olwyn a ddim yn fy nghasglu i.”

Er nad oes cysylltiad uniongyrchol rhwng y Prif Weinidog a’r achosion yn ymwneud â Veezu, maen nhw’n dod ar adeg dyngedfennol iddo, wrth iddo fe wynebu dwy bleidlais.

Mae un wedi’i galw gan Blaid Cymru a’r llall gan y Ceidwadwyr, ac maen nhw’n ymwneud â gosod cap ar roddion gwleidyddol.

Bydd y ddwy bleidlais yn cael eu cynnal yn ddiweddarach heddiw (dydd Mercher, Mai 1).