Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi beirniadu cynlluniau Llywodraeth San Steffan i yrru ceiswyr lloches i Rwanda.

Wrth siarad yn y Senedd ddoe (dydd Mawrth, Ebrill 30), disgrifiodd arweinydd y blaid y cynlluniau fel rhai “oeraidd a chreulon”.

Fe wnaeth Jane Dodds alw hefyd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw’r ceiswyr lloches sydd wedi’u croesawu i Gymru fel dinasyddion noddfa yn cael eu cadw dan reolaeth gyda’r posibilrwydd o gael eu gyrru i Rwanda.

Safiad yn erbyn ‘rhethreg hyll y Torïaid’

“Ni ddylid caniatáu i bolisi oeraidd a chreulon Rwanda Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig godi’i ben hyll yma yng Nghymru,” meddai Jane Dodds.

“Rydym ni fel cenedl wedi ymfalchïo yn ein natur agored a’n cynwysoldeb; rydym wedi croesawu’r rhai sy’n ffoi rhag perygl gyda breichiau agored, ac wedi dangos caredigrwydd a thosturi i’r rhai mwyaf anghenus.

“Dyna pam fod yn rhaid i ni gymryd safiad yn erbyn rhethreg hyll y Torïaid ynghylch ceiswyr lloches.

“Rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau na fydd y rhai sydd wedi cael eu croesawu yng Nghymru fel dinasyddion noddfa mewn perygl o gael eu rhoi yn y ddalfa gyda’r posibilrwydd o gael eu hanfon wedyn i Rwanda.”

Mesur Rwanda gerbron Aelodau Seneddol eto

“Mae’r [Bil] yn tanseilio’r gyfraith trwy orfodi barnwyr i ystyried Rwanda yn ddiogel yn groes i dystiolaeth,” medd Liz Saville Roberts