Bydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio eto ar Fesur Rwanda heddiw (Ebrill 17).
Bwriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ydy gyrru rhai ceiswyr lloches i Rwanda, ac mae’r Bil wedi bod yn mynd yn ôl ac ymlaen rhwng Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.
Fe wnaeth Tŷ’r Arglwyddi ychwanegu diwygiadau at y cynllun ddoe, sy’n golygu ei fod yn dychwelyd i Dŷ’r Cyffredin eto brynhawn heddiw.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig am atal unrhyw heriau cyfreithiol pellach i’r cynllun wedi i’r Goruchaf Lys farnu ei fod yn anghyfreithlon.
Dywed Liz Saville Roberts, Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, ei fod yn “tanseilio’r gyfraith trwy orfodi barnwyr i ystyried Rwanda yn ddiogel yn groes i dystiolaeth”.
“Bydd Aelodau Seneddol Plaid Cymru cefnogi gwelliannau gan gynnwys gofyn am barch at hawliau dynol eto.”
Cefndir y Bil
Y disgwyl yw y bydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio yn erbyn y diwygiadau sydd wedi’u cynnig gan Dŷ’r Arglwyddi, ac y bydd y Bil yn dychwelyd i Dŷ’r Arglwyddi eto heno.
Roedd y diwygiadau gafodd gefnogaeth yr Arglwyddi ddoe yn cynnwys creu eithriadau i blant a sicrhau bod y Bil yn cadw at gyfraith ryngwladol.
Mae’r cynllun i yrru rhai ceiswyr lloches i Rwanda wedi derbyn peth gwrthwynebiad ers iddo gael ei gyflwyno i ddechrau gan lywodraeth Boris Johnson ddwy flynedd yn ôl.
Er bod yr Arglwyddi wedi’i wrthod sawl tro, mae mwyafrif y blaid Geidwadol yn San Steffan yn golygu bod unrhyw ddiwygiadau sy’n cael eu gwneud gan yr Arglwyddi’n debygol o gael eu dadwneud yn Nhŷ’r Cyffredin.
Ni fydd y Bil yn dod yn gyfraith nes bod y ddau dŷ’n cytuno ar y geiriad, ond mae Rishi Sunak, y Prif Weinidog, wedi dweud ei fod yn anelu at basio’r Bil yr wythnos hon.
“Rydyn ni dal yn canolbwyntio ar basio’r Bil mor fuan â phosib fel ein bod ni’n gallu dechrau’r awyrennau a thorri model busnes gangiau o droseddwyr,” meddai llefarydd ar ran Rhif 10 ddoe.