Mae criw rhaglen Y Byd ar Bedwar wedi bod draw i weld y wlad sydd i fod i dderbyn ceiswyr lloches anghyfreithlon gan Brydain. Ar drothwy darlledu’r rhaglen, y cyflwynydd Siôn Jenkins sydd â’r hanes…

“Rwanda. Ma’ pawb yn siarad amdani. Ti moyn mynd?”

Dyna’r cwestiwn ddaeth i ‘nghyfeiriad gan olygydd Y Byd ar Bedwar un bore nôl ym mis Ionawr.

“Wrth gwrs! Pryd?” oedd fy ateb i – a hynny heb wybod llawer iawn am y wlad fach yng Nghanolbarth Affrica sydd wedi hawlio’r penawdau gwleidyddol Prydeinig yn aml dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae’r wlad yn rhan o un o bolisïau mwyaf dadleuol Llywodraeth y Deyrnas Unedig – i anfon ceiswyr lloches sy’n cyrraedd Prydain “yn anghyfreithlon” yno. Ers ei gyhoeddi yn Ebrill 2022, mae’r cynllun wedi wynebu heriau moesol yn ogystal â sawl un gyfreithiol, ac mae’n dal i wneud. Ond tu hwnt i’r holl sŵn, roedd gen i gwestiynau. Pa fath o wlad yw Rwanda? Ydy hi’n ddiogel? Beth fydd yn disgwyl y rheiny sy’n cael eu hanfon yno? A beth yw barn ei phobl am y cynllun?

Glaniais yn y brifddinas, Kigali, ganol fis diwethaf. Dau beth darodd fi’n syth – y prysurdeb a’r glendid. Roedd dod at gylchfannau yn y car yn rhyw fath o free-for-all; ond wedyn byddai rhai dinasyddion yn aml yn tacluso ac yn chwynnu yng nghanol y cylchfannau hynny ac yn sgubo’r palmentydd cyfagos. Doedd hwn ddim yn syndod wedi i mi ddysgu bod Rwanda yn clustnodi bore Sadwrn olaf pob mis ar gyfer gwasanaeth cymunedol gorfodol ledled y wlad. Roedd balchder y bobl yn eu dinas a’u gwlad yn amlwg o’r awr gyntaf i mi fod yno.

Mae Rwanda tua’r un maint â Chymru, ond mae ganddi boblogaeth dros bedair gwaith yn fwy. Mae’n wlad drwchus ei phoblogaeth ac roeddwn i wir yn medru teimlo hynny – yn y brifddinas, ond hefyd yn yr ardaloedd gwledig. Fel pob dinas fawr, mae gan Kigali ei hardaloedd cyfoethog a thlawd. Ac yn yr ardaloedd tlawd, doedd e ddim yn anarferol cael pobl, plant yn bennaf, yn ein dilyn ni yn gofyn am arian. Peth arall nad oeddwn i’n hollol barod ar ei gyfer oedd pobl – degau ohonyn nhw, ac mewn grwpiau ambell waith – yn stopio ac yn syllu arnom ni am lawer hirach nag oedd yn gymdeithasol dderbyniol. Ond doeddwn i ddim wedi fy nychryn – roedd y stopio a’r syllu yn arwydd o chwilfrydedd. A phwy all eu beio nhw? Wedi’r cwbl, roedden ni’n griw o dri pherson gwyn o’r Gorllewin yn cario camerâu ac yn chwysu stecs!

£370 miliwn

Tra yn Kigali, dysgais fwy am y pryderon sydd gan bobl am y cynllun rhwng y Deyrnas Unedig a Rwanda. Cwrddais ag un ffoadur sydd wedi profi anawsterau’r system loches yno, yn ogystal â menyw sy’n gweithio gyda’r 135,000 o geiswyr lloches sydd gan Rwanda’n barod. Er bod hi’n wlad ddemocrataidd mewn enw, mae record hawliau dynol Rwanda wedi bod yn wael yn aml, yn enwedig o ran rhyddid barn a gwrthwynebiad gwleidyddol. Roedd cyfweld â gwleidydd sydd wedi treulio amser yn y carchar am siarad yn erbyn y Llywodraeth, ac sydd bellach yn byw dan wyliadwriaeth gyson, yn agoriad llygad.

Roedd un o brif swyddogion Llywodraeth Rwanda yn awyddus i bwysleisio i mi nad oes sut beth i gael â gwlad sydd yn rhy llawn, a bod y cynllun yn golygu mwy iddyn nhw na’r 370 milliwn o bunnau y byddan nhw’n derbyn amdano. Cefais gyfle hefyd i grwydro coridorau gwag Hope Hostel – yr adeilad sydd wedi cael ei baratoi i droi’n gartref dros dro i 100 o geiswyr lloches. Doedd e ddim yn foethus, ond roedd e’n ddigon cartrefol. Serch hynny, gadewais yn meddwl pa obaith fydd i’r ceiswyr lloches tu hwnt i furiau’r hostel?

Hanner Cymro, hanner Rwandan

Roedd gen i gwmni yn Rwanda hefyd. Mae Bowen Cole yn fachgen 17 oed sydd wedi byw yn Abertawe gydol ei oes. Mae’n siarad Cymraeg, ond mae ei wreiddiau yn Rwanda. Mae e’n teithio i’r wlad bob blwyddyn gyda’i fam, Eliane, oedd yn byw yno tan iddi symud i Gymru ddiwedd y 1990au. Fel hanner Cymro, hanner Rwandan, mae gan Bowen farn ddiddorol ar y polisi, ac mae e’n credu bod ei famwlad wedi cael cam ers cyhoeddi’r cynllun.

Uchafbwynt y daith i mi oedd y siwrnai bum awr o Kigali i’r pentref lle mae teulu Bowen yn byw, yn Nhalaith Orllewinol y wlad. Mae Rwanda’n cael ei hadnabod fel ‘Gwlad o Fil Fryniau’, a gwelais yn union pam ar y daith honno. Mae’n debyg i Gymru o ran ei thirwedd, ond mae’r cyferbyniadau o fewn y dirwedd honno yn syfrdanol. Teimlais yn hynod freintiedig, wrth i ni gwrso’r machlud ar hyd yr hewlydd troellog, i gael gweld a phrofi gwlad mor brydferth.

Ond wrth iddi nosi, daeth yn raddol amlwg bod Sam, ein gyrrwr, wedi cymryd tro anghywir. Am ryw ddwy awr ychwanegol, buom yn bownsio o gwmpas yn y car – ein dwylo’n gafael yn dynn yn ein seddi – wrth i ni ddod yn gyfarwydd iawn â phob twll a tholc yn Llwybr Nîl y Congo. Dyma hefyd pryd y trodd Sam aton ni i’n rhybuddio i beidio rhoi’r ffenestri lawr rhag ofn i nadroedd ddod mewn i’r car. Rhyddhad oedd cyrraedd ein gwesty ar lannau Lyn Kivu. Antur a hanner!

Y bore wedyn, fe welon ni’r ardal yn ei holl ysblander, wrth i ni wneud ein ffordd i gartref teulu Bowen yn ardal Musasa. Cawsom groeso arbennig, gyda hen ddigon o fwyd a diod traddodiadol, gan gynnwys pysgod oedd wedi’u dal yn ffres y bore hwnnw o Lyn Kivu. Yno hefyd, deallais sut mae effaith hil-laddiad erchyll 1994 yn dal i bwyso’n drwm ar Rwanda. Mae’i gorffennol, heb os, yn dal i siapio ei phresennol. Braint oedd bod ym Musasa; ond roedd gweld sut mae pobl yn gwneud y gorau o’r ychydig iawn sydd ganddyn nhw mewn bywyd yn sobri dyn.

Ond bydd hyd yn oed yn llai gan y rheiny fydd yn cyrraedd Rwanda o’r Deyrnas Unedig – OS maen nhw’n cyrraedd o gwbl, hynny yw. Er i mi fwynhau dysgu mwy am y wlad hardd ond gymhleth hon, y ceiswyr lloches yn unig fydd yn gallu barnu go-iawn ai Rwanda yw’r ateb.

Y Byd ar Bedwar: Y Daith i Rwanda ar S4C nos Lun, 18 Mawrth, am wyth