Bydd olynydd Mark Drakeford a Phrif Weinidog nesaf Cymru yn cael ei ddatgelu ddydd Sadwrn. Ac fe fydd pwy bynnag sy’n ennill yn wynebu sefyllfa ariannol andros o anodd…

Mae ras arweinyddol Llafur Cymru wedi bod ar droed ers deufis bellach ac wrth i Brif Weinidog nesaf Cymru agosáu at y llyw, mae dau o sylwebyddion gwleidyddol Cymru wedi tafoli gobeithion Vaughan Gething a Jeremy Miles.