Fe gafodd y Ffrancod Ddiwrnod i’r Brenin yng Nghaerdydd dros y Sul, tra mae’r Cymry yn herio’r Eidal y Sadwrn hwn ac mewn peryg go-iawn o gipio’r Llwy Bren. Seimon Williams sy’n pwyso a mesur…

 

Ar ddechrau’r tymor, hyderus oedd Gatland. Fel yr oedd cyn Cwpan Rygbi’r Byd nôl yn yr Hydref, bu addewid o lwyddiant annisgwyl. Cyfle yn erbyn yr Alban, wedyn Lloegr sydd hefyd mewn cyfnod o drawsnewid, wedyn Dulyn, efallai am y Goron Driphlyg…