Ar ddydd Mercher yr wythnos mae Diwrnod Dim Ysmygu. Cafodd y diwrnod ei ddathlu am y tro cyntaf 40 mlynedd yn ôl ac yn yr amser hynny, mae’r gyfran o ysmygwyr yng Nghymru wedi gostwng ymysg oedolion o 33% i 13%.

Mae Llywodraeth Cymru efo uchelgais a strategaeth i greu Cymru ddi-fwg (sef 5% neu lai yn ysmygu) erbyn 2030 ac mae’r gogwyddion i ffwrdd o dybaco yn argoeli’n dda.

Rydw i wedi gweld y newid yn fy mywyd fy hun. Roeddwn yn 17 oed pan ddaeth gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus i rym yn 2007 ac yn gymdeithasol a diwylliannol, nid wyf yn gweld gymaint o bobl ifanc yn ysmygu tybaco fel ag yr oedd ers talwm.

Fwyfwy yr wyf yn dod i ystyried ysmygu tybaco fel arfer hen ffash sy’n perthyn i’r to hŷn.

Mae ysmygwyr yn ymwybodol o ddrwg effeithiau tybaco. Fel ysmygwr am ugain mlynedd, roeddwn yn gwybod yn iawn y bu yn ddrwg i’m hiechyd.

Y broblem: roedd tybaco wedi fy nghaethiwo yn gorfforol ac yn seicolegol. Fel mae ysmygwyr hir dymor yn gwybod, nid ar chwarae bach mae torri’n rhydd o sigarennau. Mae ysmygu yn dod yn gymaint rhan o arferion rhywun nes ei bod yn anodd dychmygu bywyd heb sigarennau.

Mae pob ysmygwr efo’r sigarét benodol honno y maen nhw yn gyndyn o fynd hebddi: y mwgyn ar ôl diwrnod hir yn y gwaith; y sigarét gyda gwydriad o win tra ar eich gwyliau haf. Mynd hebddi – no wê! Fy nghyfaill yn ystod pob tymor: roedd yna sigarennau i alaru ac eraill i ddathlu.

Ond mae ysmygu yn beryglus ac wrth wraidd marwolaethau oddeutu hanner yr ysmygwyr hirdymor.

Yn ysmygwyr tybaco brwd, mae sawl aelod o’m teulu wedi marw o ganser yr ysgyfaint, a dyna oedd ffawd fy mam-gu Ffynnon Taf, Beryl. Ei hoff frand oedd Superkings Originals a ddaeth mewn pecyn trawiadol du ac aur. Mae sigarét superking yn hirach na’r sigaret king size cyffredin. Roedd fy mam-gu wedi bod yn ysmygwr ers ei phlentyndod a buodd yn ysmygu yn drwm bron trwy gydol ei hoes.

Roedd yn cyfeirio at ysmygu fel ei ‘phleser bach’ ac roedd yn gyndyn i roi’r orau iddi. Syndod felly, pan dderbyniodd y newyddion bod ganddi ganser yr ysgyfaint, iddi roi’r gorau i ysmygu yn y fan a’r lle a threuliodd ddwy flynedd olaf ei bywyd yn ddi-fwg. Yn lle tanio sigarét cymerodd at fisgedi custard cream yn lle.

Fe wnaeth y ffordd y gwnaeth hi dorri’r arferiad mor sydyn, a hynny mewn modd mor derfynol, gryn argraff arnaf a rhoi gobaith imi y gallwn innau roi’r gorau iddi hefyd. Gyda’r diagnosis roedd hi wedi dod i’r sylweddoliad dwfn bod smygu yn dod â dim lles iddi. O ran osgoi canser, mi ddaeth y sylweddoliad yn rhy hwyr yn y dydd i fy mam-gu. Ond i ysmygwyr heddiw, mae cyfle o hyd i stopio.

Dw i wedi bod yn ddi-fwg ers naw mis. Yn ogystal ag atgofion am fy mam-gu, bu’r llyfr The Easy Way to Stop Smoking gan Alan Carr yn gymorth mawr i mi. Mae gwasanaeth cyhoeddus ‘Helpu Fi i Stopio’ hefyd ar gael.

Help, gwybodaeth a chymorth i roi’r gorau i dybaco yw’r hyn y mae ysmygwyr ei angen.

Nid oes angen sigarennau arnom, mae newid yn bosib ac mae bywyd mwy iach a llesol ar ochr arall caethiwed i smygu tybaco. Ac i’r rheini ohonoch sy’n meddwl am geisio rhoi’r gorau iddi: fy nymuniadau gorau i chi!