Mae un o Gymry Abergele wedi ei sarhau a’i fygwth am feiddio awgrymu bod eisiau cadw enw Cymraeg ar un o dafarnau’r dref.

Bu Dylan Rhys Jones yn gyfreithiwr troseddol am flynyddoedd ac mae bellach yn Uwch Ddarlithydd y Gyfraith ym Mhrifysgol Wrecsam…

 

Rhyw wythnos yn ôl mi ysgrifennais sylw mewn adran o Facebook a enwir yn ‘Abergele Noticeboard’. Roeddwn wedi clywed fod dyn busnes o Loegr wedi cymryd lês hen dafarn hanesyddol yn Abergele o’r enw ‘Pen y Bont’. Mae’n amlwg fod cyn-berchnogion y dafarn wedi bod o dan warchae ers cryn amser, doedd pethau ddim yn edrych yn dda ac fe gaewyd y dafarn rhai wythnosau yn ôl. Newyddion da i dref Abergele oedd bod rhywun arall am ddod i ail agor y dafarn, ond fe ddiflannwyd y gobaith pan welwyd fod y dafarn am gael ei hail enwi yn ‘Bridge Head’.

Fe gododd y newid enw yma wrychyn llawer i un yn nhref Abergele. Roedd tafarn Pen y Bont yn le hynafol, roedd yr enw yna wedi bod arni ers degawdau os nad canrifoedd heblaw am ryw gyfnod byr yn 2013 pan ddewisodd rhywun newid yr enw i ‘The Coach House.’  Roedd newid yr enw hynafol yn un peth, ond roedd rhoi enw newydd oedd yn gyfieithiad chwithig, a thybiwn i yn ffrwyth munud o chwilio ar wefan ‘Google translate’ yn sarhad, nid yn unig i bobl, hunaniaeth a thraddodiad Cymraeg Abergele, ond hefyd i’r iaith Gymraeg.

Yn ôl felly i’r neges ar yr ‘Abergele Noticeboad’. Er nad oeddwn erioed wedi ysgrifennu dim yn y fan yma o’r blaen roeddwn o dan yr argraff y buasai’n le priodol i leisio barn am newid yr enw. Ysgrifennais neges gwrtais ac ystyrlon yn lleisio fy marn, ei bod yn biti bod y perchennog wedi dewis newid yr enw a’i fod wedi ei drosi mor chwithig i’r enw ‘Bridge Head’ oedd ddim yn gyfieithiad cywir ac yn gwneud dim synnwyr o gwbl, ac mai gwell fyddai cadw’r enw Cymraeg.

Fel hen dref farchnad roedd gan Abergele ddegau o dafarndai ar un tro, er roedd y rhai ag enwau Cymraeg yn eithaf unigryw, ac – a dweud y gwir – o’r holl dafarndai sydd wedi goroesi dim ond dwy oedd ag enwau Cymraeg, sef ‘Y Gwindy’ a’r ‘Pen y Bont’. Roedd perchennog y Pen y Bont wedi prynu’r Gwindy hefyd ac felly roedd newid eu henwau i’r ‘Bridge Head’ a’r ‘Winery’ yn teimlo’n hollol anghywir ac amharchus i’r dref ac i’r Gymraeg yn fy marn i.

 

Gwatwar, sarhau, bygwth

Roedd yr hyn ddigwyddodd ar ôl i mi ysgrifennu fy sylwadau ar yr ‘Abergele Noticeboad’  yn sioc anferthol i mi. Er fy mlynyddoedd fel cyfreithiwr troseddol doedd dim wedi fy mharatoi am yr ymosodiadau personol, sarhaus, yn gwatwar yr iaith ac yn dilorni fy marn i a Chymry Cymraeg y dref. Roedd rhai sylwadau yn fygythiol ac eraill yn cynnwys sylwadau am fy lle gwaith ac am fy swydd ym Mhrifysgol Wrecsam. Roedd rhai bygythiadau wedi eu cyfeirio at fy e-bost gwaith hefyd. Rhaid i mi gyfaddef i mi gael fy ysgwyd o weld yr ymateb y cefais i’r sylwadau gan lawer, oedd yn dweud eu bod yn bobl ddi-Gymraeg ac yn ymhyfrydu eu bod wedi dod i fyw yn Abergele o Loegr ac nad oedd y dref bellach yn rhan o Gymru, ond yn eu barn hwy wedi ei amsugno i mewn i ‘Livershire’, beth bynnag oedd hwnnw.

Braf iawn oedd cael cefnogaeth Cymry Abergele a’r rhai sy’n gefnogol i’r Gymraeg yn y dref. Ond roedd yr ymateb gwenwynig, ymosodol  wynebais yr wythnos diwethaf yn sioc ar y naw i mi. O ble mae hyn yn dod?

Mae rhyddid di-reol y gwefannau cymdeithasol yn siŵr o fod yn un rhan o’r broblem, ond pam y casineb a’r fitriol oedd yn treiddio trwy gynifer o’r negeseuon? Does gen i ddim atebion, ond hwyrach fod yr awyrgylch gwleidyddol presennol  yn gyfraniad, ac mae’r hyn a dderbyniais i yn fymryn bach o dystiolaeth bod yna gasineb aruthrol yn llechu o dan yr wyneb,

Y peryg ydi fod y Gymraeg, fel llawer agwedd arall o’n cymdeithas ni, yn wynebu bygythiadau enfawr. ‘Abergele isn’t a Welsh town anymore’ – dyna ddywedodd un person mewn ymateb i fy sylwadau, a dyma’r unig frawddeg nad oedd yn ymosodiad personol arnaf fi am i mi fentro awgrymu fod yr enw ‘Pen y Bont’ yn un oedd yn werth ei gadw.

Faint mwy o drefi, pentrefi, tafarndai, busnesau, ffermdai a bythynnod fydd yn wynebu’r un broblem â’r un yn Abergele? Faint mwy o enwau ‘Google Translate’ chwithig fydd yn cael eu bathu am enwau Cymraeg tybed? Roedd y digwyddiad yma wedi fy nigalonni yn fawr, nid oeddwn wedi deall fod yna gasineb gwenwynig fel hyn yn bodoli yn erbyn yr iaith Gymraeg, gwir gasineb oedd yn arwain i rai gymryd y drafferth i yrru e-bost personol i mi, yn poeri eu bygythiadau tuag ataf.

Mae yna flas chwerw iawn yn aros ar ôl y profiad diweddar yma, ac nid wedi peint yn y Pen y Bont mae’r blas yna ychwaith. A fedrwn ni ymladd yn erbyn y llif tybed? Neu ai dyma i’w ein tranc bellach? Yr wythnos hon, fedra i ddim a bod yn siŵr.