Dwi’n foi am areithiau. Nid yn anaml y bydda i’n chwilio am rai i’w gwylio ar bob math o bynciau, ond roedd un araith ddiweddar y bu’n rhaid imi ei gwylio. Honno oedd Cyflwr yr Undeb, yr araith y mae Arlywydd Unol Daleithiau America yn ei thraddodi bob blwyddyn gerbron Cyngres y wlad, a dyma un o’r ychydig rai a gaiff ei gwylio’n helaeth. Prin y bu un bwysicach ers tro byd. Gydag ailddyfodiad Trump i’r Tŷ Gwyn yn edrych yn fwyfwy tebygol, byddai perfformiad Biden eleni wedi gallu seilio’i ffawd