Dim mor hir yn ôl, roedd hi’n hawdd rhagweld pa ymosodwyr oedd yn mynd i chwarae yng ngêm nesaf Cymru. Roedd y tîm mor sefydlog, roedd yna gân am y peth. Yn ystod ein cyfnod mwyaf llwyddiannus, roedden ni’n chwarae “five at the back with Bale in attack!” yn rheolaidd. Ond dydy pethau ddim mor syml i Gymru’r dyddiau yma. Mae gan Robert Page ddewis pwysig i’w wneud ar gyfer ein gêm allweddol nesaf, yn erbyn y Ffindir yng Nghaerdydd ymhen wythnos. Mae ganddo broblem, ond mae’n un mae bob r