Yn ei golofn y tro hwn mae’r Ymgynghorydd Cwnsela Arbenigol Wynford Ellis Owen yn rhoi cyngor i ddyn sydd wedi colli ei ffordd wrth geisio jyglo busnes, plant ifanc, a gwraig sy’n gwario gormod…

Annwyl Wynford,

Rwy’n crwydro heb fawr o syniad i ble rwy’n mynd nac i ba bwrpas, a dweud y gwir. Mae gen i deulu ifanc ac rwy’n gweithio bob awr o’r dydd (mae gen i fusnes fy hun, felly does gen i ddim dewis) ac rwy’n colli allan ar eu gweld mor aml ag y dylwn. Rwy’n greulon o gystadleuol, diolch i fy rhieni sydd yn rhoi pwys mawr ar ddod ymlaen yn y byd. Ond dw i’n teimlo fy mod i’n sdyc fel ar ryw olwyn ffair fawr ar hyn o bryd sy’n cyflymu’n ddyddiol fel na alla i neidio oddi arni. Roedd hyn yn olreit pan o’n i’n ifancach ac yn briod hefo fy ngwraig gyntaf, (mae gen i ddau o blant sydd wedi tyfu fyny o’r briodas honno hefyd) ond erbyn hyn dw i’n teimlo’r straen.

Dw i’n cyfaddef fy mod i’n smocio ‘mwg drwg’ ac yn yfed braidd gormod  – mae’r wraig bresennol yn rhannu’r un pleserau, ac yn dueddol o wario gormod arni hi ei hun, er ei bod yn gwybod bod y busnes yn stryglo a bod peryg i’r hwch fynd drwy’r siop. Mae’r doctor wedi rhoi presgripsiwn am dabledi gwrth-iselder-ysbryd wedi imi gyfaddef fy mod i’n cael meddyliau tywyll ynglŷn â’m dyfodol, ond dydyn nhw ddim wedi gwneud fawr o wahaniaeth. Byddai unrhyw awgrym all fod o help, yn cael ei werthfawrogi’n fawr…

 

Camp anoddaf dyn yw derbyn ei ddynoldeb, ac achos pob dioddefaint yw ei anallu i wneud hynny. Taith o hunan-adnabyddiaeth yw taith bywyd – i adnabod a derbyn ein hamherffeithrwydd yn ogystal â’n rhinweddau, a chofleidio’n llawn ein gwir gyflwr. Ysywaeth, oherwydd y pwysau sydd arnom i ddianc rhag yr hunan, does gan y rhan fwyaf o bobl ddim syniad pwy na beth sy’n gwneud y byw a’r marw yn eu henwau. Tlodi ysbrydol yw pris eu hanwybodaeth. Y math o dlodi ysbrydol sydd wedi dy oddiweddyd di o bosib.

Ym 1955 ysgrifennodd y seicdreiddiwr Erich Fromm un o lyfrau pwysicaf yr 20fed ganrif, sef The Sane Society. Sylwodd fod gan America, gwlad y digonedd, raddfa uchel o hunanladdiad a phroblem enfawr gyda chyffuriau. O geisio deall pam, fe welodd fod yr Unol Daleithiau yn dda iawn am ofalu am ofynion materol y rhan fwyaf o’i phobol, ond yn wael iawn am ofalu am eu hanghenion ysbrydol. Ei ddadl ef oedd bod cymdeithas oedd wedi’i sylfaenu ar brynwriaeth (marchnad oedd yn targedu’r prynwyr) yn gwneud niwed i’w dinasyddion yn emosiynol ac yn ysbrydol.

Wrth gwrs, mae dadl Fromm yn hollol ddilys ym Mhrydain a Chymru’r 21ain ganrif – yn bennaf oherwydd inni lyncu’n gwbl ddigyfaddawd ddau rith. Dau rith sy’n ein dieithrio rhag ein gwir hunaniaeth am gyfnodau maith o’n bywydau. A dau rith, dw i’n ofni, sydd wrth wraidd dy helbulon di.

Rhith diffyg

Rhith Diffyg yw’r rhith cyntaf. Rydan ni i gyd yn hurtio’n hunain mewn rhyw ffordd neu’i gilydd – gallet ddadlau fod gwrando ar Requiem Mozart ar bnawn Sul, darllen nofel, neu wylio criced ar y teledu yn ffyrdd o hurtio’n hunain; mae meddwi a chymryd cyffuriau yn ffyrdd eraill ond mwy niweidiol wrth gwrs – er mwyn cyrraedd rhyw nod arbennig. Un o’r nodau sy’n cael ei amlinellu i ni gan gymdeithas heddiw yw’r syniad o gyflawnder, hunanfoddhad a diwedd i deimladau o wacter neu fod yn anghyflawn.

Yn anffodus, mewn cymdeithas lle mae cystadleuaeth yn chwarae rhan mor bwysig, a phobl yn cymharu pawb a phopeth â’i gilydd yn ddi-ben-draw, mae’r syniad hwn o hunanfoddhad yn anodd iawn ei gyflawni. Rydyn ni’n byw mewn cymdeithas sy’n credu bod diffyg ym mhob un ohonom – p’un ai diffyg harddwch corfforol, diffyg cyfoeth, deallusrwydd, doethineb, tawelwch, apêl rywiol neu ddiffyg llwyddiant. Wedi ceisio delio â’r ‘diffyg’ hwn trwy brynu cynnyrch sydd wedi’i lunio i’w ddatrys, cyflwynir ‘diffyg’ arall, sef teimlad dwfn o ddiffyg cyflawniad neu ddiffyg pwrpas, fel yn dy achos di. Mae hyn yn ein harwain ar hyd llwybr materoliaeth gan gau allan y gwerthoedd ysbrydol. Gall y diflastod sy’n deillio o’r teimlad hwn o fod yn ddiffygiol, arwain at awydd i ddianc, a throi at ‘feddyginiaeth’ i wneud hynny – eto, fel yn dy achos di.

Rhith llwyddiant

Rhith Llwyddiant yw un arall o syniadau ‘hollbwysig’ ein hoes. Mae’r teledu, y radio a’r rhyngrwyd yn cynnig diet cyson o storïau a delweddau sy’n gwthio un neges graidd ar gyfer ein hoes – er mwyn llwyddo, a ‘dod ymlaen yn y byd’, rhaid ‘gofalu amdana i fy hunan o flaen pawb arall’, a hyd yn oed bod yn barod i roi cyllell yng nghefn rhywun er mwyn llwyddo yn hynny o beth. Ai dyna, tybed, ystyr dy gyfaddefiad dy fod ti’n ‘greulon o gystadleuol’?

Mae llwyddiant hefyd yn golygu datblygu elfen narsistig o hunanbwysigrwydd, ac mae ego mania gwenwynig yn cael ei godi i lefel rhinwedd gyhoeddus. Anaml y mae llwyddiant yn cael ei weld fel rhywbeth cyfystyr â charedigrwydd, tynerwch, haelioni neu amynedd.

Canlyniad hyn oll yw bod pob un ohonom sy’n awyddus i lwyddo mewn bywyd, yn cael ein bwydo â rhith, syniadau ffals, sy’n annog ymddygiad sy’n ein dieithrio oddi wrth ein gilydd. Rwyt ti eisoes wedi colli un teulu rwy’n sylwi. Gochela rhag aberthu’r ail hefyd ar allor y rhithiau hyn.

Yr elfen ysbrydol

Beth wnei di felly i newid dy fywyd er gwell?

Mae gofyn iti feithrin yr hyn y bydda’ i yn ei ddisgrifio fel ‘detached indifference’ – rhyw ddihidrwydd iach i negeseuon celwyddog yr ego ac ymdrechion y byd a’i bethau i’th gael yn ysglyfaeth i’r rhithiau hyn. Wrth gwrs, mae hyn yn gofyn iti fod yn ymwybodol o’r hyn yr wyt yn ei wneud – cysylltu’r blaen-ymennydd ym mhopeth a wnei – yn hytrach na gwneud fel y rhan fwyaf o bobl, sef cysgu-cerdded eu taith drwy eu bywydau fel robotiaid yn ddi-hid o’u hymddygiadau niweidiol. Y gamp felly yw dy gael i weld y tu hwnt i’r cyflwr materol ac i afael yn dy wir gymeriad di dy hun ac elfen ysbrydol dy fywyd. O wneud hyn – ymddihatru o bob ymlyniad i bethau materol ac ego-ganolig: hynny yw, profi i ti dy hun y medri di fyw hebddyn nhw – gelli weld wedyn pwy wyt ti mewn gwirionedd a sylweddoli beth yw dy wir bwrpas yn y byd hwn.

Gyda llaw, beirniadu’r ymddygiad ydw i bob amser, nid y person. Cofia hynny. Pob dymuniad da iti.