Fe ges i sgwrs efo Barry John un tro, dros beint yn yr Halfway ryw ganol pnawn. Nid fod hynny’n ryw brofiad eithriadol o unigryw. Wedi’r cwbl, nid yw’n llawer o gyfrinach fod “Y Brenin” yn hoff o’i beint, a’i bod hi’n eithaf hawdd dod o hyd iddo yn un o dafarndai Pontcanna neu yn yr Old Arcade yng nghanol dinas Caerdydd.