Mae hi’n anodd mynd i’r gwely’r dyddiau yma. Mae Mam yn cau’r llenni, ond llenni gwyn ydyn nhw, a dwi’n gweld golau’r haul drwyddyn nhw, a rownd y rhimyn hefyd. Mae Mam yn darllen llyfr i mi a Now cyn i ni fynd i gysgu, ac mae Now yn cysgu erbyn diwedd y llyfr bob tro, ond tydi o fawr mwy na babi felly ’sdim rhyfedd.