Rydym ni chwe mis i mewn i’r rhyfel rhwng Palestina ac Israel ac erbyn hyn mae’r term “rhyfel” wedi cael ei ddisodli gan y term “hil-laddiad”. O’r “Lladdfa Blawd” ar 29 Chwefror pan wnaeth byddin Israeli saethu ffoaduriaid Palesteinaidd oedd yn ceisio cael gafael ar flawd o’r tryciau cymorth, i’r lluniau ar y We o blant yn cael eu lladd a byddin Israelaidd yn postio lluniau gyda dillad a theganau o dai pobl maen nhw wedi eu bomio… mae’n anodd peidio â gweld a synhwyro, be bynnag eich barn am y g