Nid peth hawdd yw byw yn Radur.

Mae yma fanteision pwysig, wrth gwrs, gan gynnwys y ffaith fod modd parcio ar y dreif.

Yn y pendraw, fodd bynnag, yr hyn sydd waethaf am fyw yn Radur yw bod Llandaf yn gymaint yn well.

Oes, mae gennym Co-op bychan. Ac mae gennym dafarn feicro sy’n agor am ychydig ddyddiau’n wythnosol. Hefyd mae gennym fwyty Eidalaidd bendigedig, sef Cicchetti.

Ond mae hwnna’n fe.