Mae siop yng Ngheredigion wedi cyrraedd rownd derfynol gwobr Brydeinig am y siop orau ar y stryd fawr.

The Snail of Happiness yn Llanbedr Pont Steffan ydy un o’r siopau sydd wedi cyrraedd yr wyth olaf yng nghategori ‘Arwr y Stryd Fawr’ gwobrau’r Small Awards eleni.

Mae’r siop, agorodd ddwy flynedd yn ôl, yn gwerthu cyflenwadau crefftio ail-law ac edafedd o wledydd Prydain er mwyn hyrwyddo cynaliadwyedd ac economi gylchol.

Fel rhan o hynny, maen nhw hefyd yn cynnal sesiynau galw heibio a dosbarthiadau creu a thrwsio eitemau.

Mae gwobrau Small Awards yn cael eu cynnal am yr wythfed tro eleni, a’r bwriad ydy chwilio am y cwmnïau lleiaf, gorau yn y Deyrnas Unedig ymhob sector.

“Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Arwr y Stryd Fawr,” meddai Jan Martin, sydd wedi sefydlu’r siop ar y cyd â Jon Sayer.

“Ar ôl agor ein drysau ddwy flynedd yn ôl, mae’n hynod braf cael ein cydnabod fel hyn.

“Rydyn ni wedi cael cefnogaeth anhygoel gan y gymuned, ynghyd â chymorth a chyngor gan Smart Busnes a chronfa Cynnal Y Cardi.

“Rydyn ni’n teimlo bod cyrraedd y rhestr fer yn rhannol oherwydd hynny.”

‘Dathlu perchnogion busnesau bach’

Caiff y gwobrau eu trefnu gan Small Business Britain, sy’n hyrwyddo, ysbrydoli ac ysgogi 5.5 miliwn o gwmnïau bach.

“Mae’r Gwobrau Bach yn ymwneud â dathlu’r perchnogion busnesau bach ysbrydoledig sydd wrth galon yr economi a’u cymunedau,” meddai Michelle Ovens, un o sylfaenwyr Small Business Britain.

“Maen nhw’n gyfle i gydnabod a chanmol angerdd a gwytnwch cwmnïau bach y genedl, yn enwedig yn ystod cyfnod mor gythryblus.

“Mae The Snail of Happiness yn llawn haeddu bod ar restr fer y wobr hon ac ni allwn aros i ddathlu gyda nhw ym mis Mai.”

Mae’r gwobrau yn cynnwys 11 categori, a bydd enillwyr pob categori yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yn Eglwys y Santes Fair yn Llundain ar Fai 16 2024.