Wrth i wleidyddion ystyried dyfodol y Bil Rwanda dadleuol yr wythnos hon, dywed Archesgob Cymru ei fod yn “parhau i fod yn ddiffygiol iawn ac yn anamddiffynadwy”.
Mae pôl piniwn yn dangos bod y rhan fwyaf o bleidleiswyr Ceidwadol yn dymuno gweld y ddeddfwriaeth yn cael ei gwanhau, neu’n cael ei dileu’n gyfangwbl.
Daw hyn wrth i weinidogion yn San Steffan geisio gwyrdroi cyfres o newidiadau gafodd eu gwneud i’r Bil gan Dŷ’r Arglwyddi, gan ddadlau y gallai’r newidiadau ei gwneud hi’n amhosib hedfan ceiswyr lloches i Rwanda heb wynebu heriau cyfreithiol gyntaf.
Yn ôl y ddeddfwriaeth, mae Rwanda yn wlad ddiogel i anfon ceiswyr lloches iddi, er gwaethaf record hawliau dynol y wlad.
Ymhlith y newidiadau gafodd eu gwneud gan yr Arglwyddi roedd ehangu’r rhesymau pam y byddai ceiswyr lloches yn gallu apelio yn erbyn penderfyniad i’w hanfon nhw i Rwanda.
Mae disgwyl penderfyniad gan farnwyr yn y Goruchaf Lys yr wythnos hon.
Ond bydd y ddeddfwriaeth yn cal ei thrafod gan aelodau seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (dydd Llun, Mawrth 18), ac mae disgwyl iddyn nhw geisio dileu holl welliannau’r Arglwyddi, wrth i weinidogion y Llywodraeth Geidwadol ddadlau y byddai’r gwelliannau’n atal y ddeddfwriaeth rhag bod yn effeithiol wrth atal mewnfudwyr anghyfreithlon rhag dod i wledydd Prydain.
Archesgob Cymru’n “gweddïo”
“Rwy’n gweddïo heddiw, wrth i Aelodau Seneddol ystyried y gwelliannau i Fesur Diogelwch Rwanda,” meddai’r Parchedicaf Andrew John, Archesgob Cymru.
“Mae hyn yn parhau i fod yn ddiffygiol iawn ac yn anamddiffynadwy.”
“Gwneud campau” creulon
Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn dweud bod y Bil yn “gwneud campau” ac yn achos o “greulondeb perfformiadol”.
“Mae Plaid Cymru’n ei wrthwynebu’n llwyr – a byddwn ni’n pleidleisio heno i orfodi’r Llywodraeth Dorïaidd i gydymffurfio â chyfraith ryngwladol,” meddai.