Bydd Vaughan Gething yn dechrau ei gyfnod yn Brif Weinidog Cymru yn “glwyfedig iawn”, yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones.

Mae disgwyl i Vaughan Gething ddod yn Brif Weinidog ar ôl iddo ennill etholiad arweinyddol Llafur Cymru ddydd Sadwrn (Mawrth 16).

Fe wnaeth e guro Jeremy Miles, yr ymgeisydd arall, o 51.7% i 48.3% mewn pleidlais gan aelodau Llafur, aelodau cysylltiedig a’r undebau llafur.

Daeth i’r amlwg ychydig wythnosau yn ôl fod ymgyrch Vaughan Gething wedi derbyn £200,000 gan gwmni sy’n cael ei redeg gan ddyn busnes sydd wedi cael ei gyhuddo ddwywaith am droseddau amgylcheddol.

Mae “anniddigrwydd mawr” o fewn rhengoedd y Blaid Lafur yng Nghymru yn sgil hyn, meddai’r Athro Richard Wyn Jones, cyfarwyddwr Canolfan Lywodraethiant Cymru, wrth golwg360.

Mae Vaughan Gething wedi gwrthod rhoi’r £200,000 yn ôl, ac mae’n mynnu nad yw wedi gwneud dim o’i le.

‘Hygrededd’

Yn 2016, fe wnaeth Vaughan Gething ofyn i Gyfoeth Naturiol Cymru lacio’r cyfyngiadau ar Atlantic Recycling, oedd yn cael ei redeg gan David Neal, sydd bellach yn rhedeg Dauson Environmental Group.

Fodd bynnag, mae’r darpar Brif Weinidog yn dweud ei fod e wedi ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru fel aelod o’r etholaeth, ac nad oedd yn lobïo.

Daeth i’r amlwg yn ystod yr ymgyrch fod y cwmni hefyd wedi gwneud cais i adeiladu fferm solar ar Wastadeddau Gwent, fyddai’n gofyn am ganiatâd Llywodraeth Cymru.

“Mae hyn yn effeithio’n gwbl sylfaenol ar ei hygrededd o,” meddai’r Athro Richard Wyn Jones wrth golwg360.

“Y ffaith bod o wedi cael un rhodd o’r ffasiwn faintoli, hyd yma does yna ddim eglurhad arall wedi cael ei gynnig dros pam bod y person yma wedi bod eisiau rhoi gymaint o arian, ac eithrio bod o efo diddordebau busnes mae o’n teimlo sy’n mynd i gael eu hyrwyddo drwy wneud hyn.

“Efallai bod yna eglurhad arall, ond mae Vaughan Gething wedi gwrthod ymateb yn synhwyrol i’r peth a thrio wfftio’r peth drwy ddweud bod dim byd i’w weld.

“Dydy hwnna ddim yn gredadwy.”

Mewn cyfweliad â BBC Politics Wales fore heddiw (Mawrth 18), dywedodd Vaughan Gething wrth drafod y cais am fferm solar, fyddai yn ei etholaeth, fod “pob newyddiadurwr difrifol yn gwybod nad ydy hi’n bosib gwneud penderfyniadau yn eich etholaeth fel Gweinidog”.

“Mae’r ffordd mae’r stori wedi cael ei rhedeg gyda’r awgrym bod rhywbeth yn mynd ymlaen, byddai hi’n amhosib i fi wneud hynny. Fedra i ddim gwneud penderfyniad fel Gweinidog yn fy etholaeth,” meddai’r darpar Brif Weinidog.

‘Sefyllfa wan’

Ychwanega’r Athro Richard Wyn Jones fod y sefyllfa’n golygu ei fod yn cychwyn “yn glwyfedig iawn, iawn, iawn”.

“Mae o’n cychwyn ei dymor fel arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru wedi’i glwyfo, o bosib yn farwol, ond yn bendant wedi’i glwyfo’n ddifrifol iawn, iawn,” meddai.

“O’i safbwynt o, os ydy o’n ceisio rhoi’r argraff bod hon yn fuddugoliaeth normal a bod dim byd i’w drafod tu hwnt i hynny, yna mae o’n mynd i wneud sefyllfa ddrwg hyd yn oed yn waeth achos mae yna anniddigrwydd mawr iawn oddi fewn i rengoedd y Blaid Lafur ynglŷn â hyn, pan wyt ti’n ystyried y cyfuniad o’r arian yma a’r ffaith fod beth sy’n ymddangos fel triciau budr wedi’u defnyddio o ran sicrhau enwebiadau’r undebau mawr i gyd a’r holl adnoddau oedd yn mynd law yn llaw â hynny.”

Yr enghraifft “orau” o hynny yw Uno’r Undeb, meddai.

Fe wnaeth Uno’r Undeb gynnal hystings rhwng Jeremy Miles a Vaughan Gething, cyn cyhoeddi eu bod nhw’n cefnogi Vaughan Gething.

Daeth i’r amlwg wedyn fod Jeremy Miles yn “anghymwys” am gefnogaeth yr undeb.

“Mae o’n creu’r argraff bod rheolau’r Blaid Lafur mor annigonol nes caniatáu i rywun sicrhau arweinyddiaeth Cymru drwy driciau ac ystumiau llai na gweddus

“Mae o’n anodd gor-ddweud pa mor wan ydy’i sefyllfa fo rŵan.”

Darbwyllo etholwyr

Mae disgwyl i Mark Drakeford ymddiswyddo’n swyddogol fory (dydd Mawrth, Mawrth 19), ac y bydd Vaughan Gething yn ei olynu ddydd Mercher yn dilyn pleidlais yn y Senedd.

Roedd y mwyafrif o Aelodau’r Senedd Llafur yn cefnogi Jeremy Miles, ond y broblem bellach ydy “cysyniad y collwyr”, medd yr Athro Richard Wyn Jones.

“Mae unrhyw drefn fel hyn yn dibynnu ar y bobol sydd wedi colli – ac yn yr achos yma maen nhw wedi colli o drwch asgell gwybedyn – yn penderfynu a derbyn bod y canlyniad wedi bod yn deg a’r broses wedi bod yn un addas.

“Gawn ni weld ond ar hyn o bryd dw i ddim yn gweld unrhyw argoel mai dyna farn y bobol yng ngwersyll Jeremy Miles.

“Mae’n amlwg bod nhw’n ddig iawn, ac mae hynny’n creu andros o broblem.”

Hyd yn oed o dawelu pethau o fewn y Blaid Lafur, bydd gan y Blaid Lafur her arall o’u blaenau wrth ddarbwyllo etholwyr.

“Yn bendant, adeg Alun Michael, doedd [etholwyr] ddim yn licio’r ffaith bod rhywun wedi cael ei ddyrchafu’n arweinydd y Blaid Lafur drwy broses oedd ddim yn ymddangos yn un dryloyw a theg.

“Dydy hanes ddim o anghenraid am ailadrodd ei hun, ond fyddwn ni’n edrych i weld beth sydd yn yr arolygon barn nesaf yn fanwl iawn.

“Mae Llafur yn debyg o wneud yn dda iawn yn yr etholiad cyffredinol nesaf yng Nghymru, felly mae o’n hawdd iawn dychmygu pobol o amgylch Vaughan Gething, pobol sydd eisiau i bawb stopio siarad am hyn, yn dweud bod bob dim yn ocê.

“Ond fy nhybiaeth i, a thybiaeth yn unig ydy o, ydy bod hwn yn mynd i greu argraff wael ymysg lot o etholwyr yng Nghymru, a bod hyn am wneud etholiad fydd yn anodd iawn, yr etholiad datganoledig nesaf, hyd yn oed yn anos,” ychwanega, gan awgrymu mai Plaid Cymru fyddai’n debyg o elwa ar hynny.

“Dyfalu ydw i, ond dw i’n meddwl bod yna resymau da i ddisgwyl hynny.

“Taswn i’n un o’r bobol sy’n ceisio llunio strategaeth ar ran y Blaid Lafur yng Nghymru, fyswn i’n bendant yn pryderu.”

Vaughan Gething yw arweinydd newydd Llafur Cymru

Mae disgwyl y bydd Vaughan Gething yn dod yn Brif Weinidog nesaf Cymru

Vaughan Gething i gipio’r goron?

Catrin Lewis

“Pwy bynnag fydd yn y cabinet a pwy bynnag fydd yn Brif Weinidog Cymru, mae yna bob math o sialensiau anferth yn eu hwynebu nhw”

“Siomedig” bod Vaughan Gething wedi derbyn £200,000 gan gwmni troseddwr amgylcheddol

Mae Vaughan Gething, sy’n ymgeisydd yn ras arweinyddol Llafur, wedi dweud bod pob rhodd sy’n cael ei roi iddo’n cael ei ddatgan yn unol â’r rheolau