Bydd trafodaethau’r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn parhau dan arweinyddiaeth Vaughan Gething, yn ôl Cefin Campbell, Aelod Dynodedig Plaid Cymru.

Enillodd Vaughan Gething, Gweinidog Economi Cymru, ras arweinyddol Llafur dros y penwythnos.

Yn sgil hynny, mae disgwyl iddo ddod yn Brif Weinidog Cymru yr wythnos hon, pan fydd Mark Drakeford yn ymddiswyddo.

Mae’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru’n cynnwys materion fel prydau ysgol am ddim, addasu treth y cyngor, diwygio’r Senedd a mesurau i fynd i’r afael ag ail gartrefi.

Ar hyn o bryd, mae disgwyl i’r Cytundeb Cydweithio ddod i ben ddiwedd y flwyddyn, ac mae llawer o bethau ar ôl i’w cyflawni, yn ôl Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd ac un o ddau Aelod Dynodedig y Blaid ar gyfer y Cytundeb Cydweithio.

‘Trafodaethau yn parhau’

Ers iddi ddod i’r amlwg fod ymgyrch Vaughan Gething wedi derbyn £200,000 gan gwmni sy’n cael ei redeg gan ŵr sydd wedi’i gyhuddo ddwywaith o droseddau amgylcheddol, mae Plaid Cymru wedi bod yn feirniadol o’i benderfyniad i’w dderbyn.

“Yr ateb syml yw bod trafodaethau yn parhau,” meddai Cefin Campbell wrth golwg360.

“Mae popeth, am wn i, yn cario ymlaen fel arfer, achos nid cytundeb rhwng dau berson, fel y cyfryw, yw’r Cytundeb Cydweithio – nid cytundeb rhwng Adam Price a Mark Drakeford, ac nid cytundeb rhwng Rhun ap Iorwerth a Vaughan Gething.

“Am wn i, unwaith fydd pethau’n setlo ar ôl yr wythnos yma, bydd trafodaethau yn parhau.

“Mae yna lawer iawn o bethau ar ôl i’w cyflawni, â dweud y gwir, yn y Cytundeb, felly mae hi’n bwysig iawn ein bod ni o leiaf yn gweld hynny trwyddo.

“Newydd gael ei benodi mae e, mae’n ddechrau wythnos newydd a bydd sgyrsiau yn parhau am lawer iawn o bethau.

“Bydd y Cytundeb yn un o lawer iawn o bethau y bydd Rhun a Vaughan yn siŵr o drafod.

“Dyw penodi Vaughan Gething ddim yn newid y Cytundeb o gwbl; mi fyddwn ni dal i sgriwtineiddio Llafur yn yr un ffordd ar lawr y Senedd, ac mi fyddwn ni dal i gydweithio ar y prosiectau sydd ar ôl i’w cwblhau.”

Dywedodd Plaid Cymru ddydd Sadwrn (Mawrth 16) fod ganddyn nhw “bryderon dwfn” yn dilyn y cyhoeddiad am fuddugoliaeth Vaughan Gething.

Yn ôl yr arweinydd Rhun ap Iorwerth, mae’n destun pryder fod “gennym bellach Brif Weinidog newydd sydd cyn hyd yn oed cymryd y swydd gyhoeddus uchaf yn wynebu honiadau a chwestiynau difrifol am ei grebwyll”.

Vaughan Gething yw arweinydd newydd Llafur Cymru

Mae disgwyl y bydd Vaughan Gething yn dod yn Brif Weinidog nesaf Cymru

Vaughan Gething yn dechrau ei gyfnod wrth y llyw “yn glwyfedig iawn”

Cadi Dafydd

“Taswn i’n un o’r bobol sy’n ceisio llunio strategaeth ar ran y Blaid Lafur yng Nghymru, fyswn i’n bendant yn pryderu”