Vaughan Gething yw arweinydd newydd Llafur Cymru, ar ôl ennill 51.7% o’r pleidleisiau yn erbyn Jeremy Miles.

Mae disgwyl y bydd yn dod yn Brif Weinidog nesaf Cymru, pan fydd proses ymddiswyddo Mark Drakeford yn cael ei chwblhau yr wythnos nesaf.

Os felly, Vaughan Gething fydd arweinydd du cynta’r wlad.

Cafodd enw’r arweinydd newydd ei gyhoeddi gan Carolyn Harris, dirprwy arweinydd presennol Llafur Cymru.

Pan fydd Mark Drakeford wedi cyflwyno’i ymddiswyddiad i Frenin Lloegr, bydd ei gyfnod o bum mlynedd wrth y llyw yn dod i ben yn swyddogol.

Roedd aelodau Llafur ac aelodau cysylltiedig, ynghyd ag undebau llafur yn cael pleidleisio yn yr etholiad rhwng Vaughan Gething a Jeremy Miles.

Roedd modd pleidleisio drwy’r post neu ar-lein rhwng Chwefror 16 a Mawrth 14.

‘Troi tudalen yn llyfr hanes ein cenedl’

“Heddiw, rydym yn troi tudalen yn llyfr hanes ein cenedl; hanes rydym yn ei ysgrifennu gyda’n gilydd,” meddai Vaughan Gething.

“Nid yn unig am fod gen i’r anrhydedd o ddod yn arweinydd du cyntaf ar unrhyw wlad Ewropeaidd – ond oherwydd ei fod yn newid cenhedlaeth hefyd.

“Dydy datganoli ddim yn rywbeth dw i wedi gorfod ymgyfarwyddo ag e, nac addasu iddo nac ymddiheuro amdano.

“Datganoli – datrysiadau Cymreig i broblemau Cymreig – mae hynny yn fy ngwaed, a dyna dw i wedi ei adnabod erioed.”

Bywyd a gyrfa

Cafodd Vaughan Gething ei eni yn Zambia, gyda’i dad yn hanu o Aberogwr.

Fe wnaeth ei rieni gyfarfod yn Zambia, lle bu ei fam yn ffermio.

Cafodd ei addysg yn Dorset a phrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd.

Roedd e’n Weinidog Iechyd yn ystod y pandemig Covid-19.

Dyma’r eildro iddo sefyll i fod yn arweinydd Llafur Cymru, gan golli’r ras yn erbyn ei ragflaenydd yn 2018.

Llongyfarchiadau

Yn dilyn cyhoeddi’r canlyniad, mae Jeremy Miles wedi llongyfarch Vaughan Gething.

‘Pryderon dwfn’

Dywed Plaid Cymru fod ganddyn nhw “bryderon dwfn” yn dilyn y cyhoeddiad.

Yn ôl yr arweinydd Rhun ap Iorwerth, mae’n destun pryder fod “gennym bellach Brif Weinidog newydd sydd cyn hyd yn oed cymryd y swydd gyhoeddus uchaf yn wynebu honiadau a chwestiynau difrifol am ei grebwyll”.

Fydd dim “newid gêr” o dan ei arweinyddiaeth, meddai, gan gyfeirio at heriau’r economi, amserau aros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a thlodi plant.

“Rwy’n llongyfarch Vaughan Gething ar ennill etholiad arweinyddiaeth Llafur Cymru,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Os caiff ei ethol yn Brif Weinidog ddydd Mercher yn ôl y disgwyl, mae record ei blaid ei hun yn golygu ei fod yn etifeddu heriau sylweddol.

“Mae wedi eistedd o amgylch bwrdd y Cabinet ac wedi dal portffolios allweddol tra bod economi Cymru wedi marweiddio, rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi tyfu, ac mae tlodi plant yn parhau i fod yn sgandal cenedlaethol.

“Nid oes dim a ddywedwyd yn ystod yr ymgyrch arweinyddiaeth yn awgrymu y byddwn yn awr yn gweld newid gêr wrth fynd i’r afael â’r heriau enfawr hyn.

“Ond mae hefyd yn dod â’i faterion personol ei hun i’r swydd.

“Mae’n destun pryder mawr bod gennym bellach Brif Weinidog newydd sydd, cyn hyd yn oed ymgymryd â’r swydd gyhoeddus uchaf yn ein gwlad, yn wynebu honiadau a chwestiynau difrifol am ei farn.

“Fe ddylai Vaughan Gething ddychwelyd y rhodd o £200,000 i’r ymgyrch sydd wedi denu cymaint o feirniadaeth o fewn ei blaid ei hun a thu hwnt.

“Nid yw hyn cystal ag y gall pethau fod i Gymru.

“Mae pobol Cymru’n haeddu plaid sydd â gweledigaeth wirioneddol ar gyfer y dyfodol – un sy’n seiliedig ar degwch ac uchelgais, a dyna beth all pleidlais i Blaid Cymru ei gynnig.”

‘Cytundeb gwell i Gymru’

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru’n galw am “gytundeb gwell i Gymru” gan arweinydd newydd Llafur Cymru a’r darpar Brif Weinidog.

Maen nhw’n galw am newid y dull o arwain Cymru, gan weithredu “ar ran pawb yma yng Nghymru”.

Yn ôl yr arweinydd Jane Dodds, mae’n “ddechreuad newydd i ni i gyd”, ond yn ddechreuad “allai greu neu dorri dyfodol y wlad hon”.

Dywed fod “nifer o bobol ledled Cymru’n teimlo eu bod nhw wedi cael eu hanghofio”.

“Mae angen llywodraeth arnom sy’n diwallu anghenion pawb yma yng Nghymru, o’r de i’r gogledd, o’r dwyrain i’r gorllewin,” meddai.

“Yn gynrychiolydd ar gyfer canolbarth a gorllewin Cymru, dw i’n ymwybodol iawn o’r synnwyr parhaus o esgeulustod sy’n cael ei deimlo gan nifer o gymunedau gwledig.

“Mae’r materion sy’n wynebu Cymru wledig, am yn rhy hir bellach, wedi cael eu hanwybyddu gan weinidogion Llafur Cymru ym Mae Caerdydd.”

Mae hi wedi gwahodd Vaughan Gething i ymweld â Chymru wledig i weld y materion drosto fe ei hun.

Mae hi hefyd yn galw am lywodraeth sy’n mynd i’r afael â’r amgylchedd a’r system iechyd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Ydych chi’n barod i roi i bobol Cymru yr hyn maen nhw ei eisiau?” gofynnodd.

‘Rhagor o’r un peth’

Dywed Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, y dylid disgwyl “rhagor o’r un peth” o dan arweiniad Vaughan Gething.

“Mae Gething wedi bod yn rhan o Lywodraeth Lafur Cymru sydd wedi llywyddu dros amserau aros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy’n torri sawl record, y dirywiad mwyaf mewn safonau addysg yn y Deyrnas Unedig, y cyfraddau busnes uchaf ym Mhrydain, ac sydd wedi ymrwymo i’r terfyn cyflymder 20m.y.a.,” meddai.

“I’r gwrthwyneb, mae gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun i achub cenhedlaeth goll Llafur, i dorri amserau aros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, i adfer rhyddhad cyfraddau busnes, ac i gael Cymru’n symud.”

Darllenwch ragor

Y bleidlais i ethol Prif Weinidog nesaf Cymru wedi cau

Fydd yr ennillydd ddim yn dechrau yn ei rôl yn syth, gan fod angen cynnal pleidlais yn y Senedd a derbyn sêl bendith Brenin Lloegr yn gyntaf

Vaughan Gething i gipio’r goron?

Catrin Lewis

“Pwy bynnag fydd yn y cabinet a pwy bynnag fydd yn Brif Weinidog Cymru, mae yna bob math o sialensiau anferth yn eu hwynebu nhw”

“Siomedig” bod Vaughan Gething wedi derbyn £200,000 gan gwmni troseddwr amgylcheddol

Mae Vaughan Gething, sy’n ymgeisydd yn ras arweinyddol Llafur, wedi dweud bod pob rhodd sy’n cael ei roi iddo’n cael ei ddatgan yn unol â’r rheolau

“Embaras” bod negeseuon WhatsApp cyfnod Covid wedi diflannu

Roedd Boris Johnson yn “anhrefnus ac aneglur” wrth gadeirio cyfarfodydd yn ystod y pandemig hefyd, meddai Vaughan Gething

‘Angen i Brif Weinidog nesaf Cymru ddatganoli’r Gwasanaeth Sifil’

Daw’r alwad gan Gymdeithas yr Iaith ar Ddydd Gŵyl Dewi (dydd Gwener, Mawrth 1)

Wrth eu cefnogwyr yr adnabyddwch hwy

Huw Prys Jones

Dylai cefnogaeth Neil Kinnock i Vaughan Gething fel Prif Weinidog nesaf Cymru fod yn rhybudd clir o’r math o rymoedd sydd y tu ôl iddo o fewn y blaid