Colofnydd gwleidyddol golwg360 sy’n edrych ar ymgyrchoedd y ddau yn y ras i fod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru.


Mae’r frwydr rhwng Vaughan Gething a Jeremy Miles i olynu Mark Drakeford yn Brif Weinidog Cymru yn amlygu fwyfwy y rhwygiadau hanesyddol rhwng unoliaethwyr a datganolwyr y Blaid Lafur.

O’r herwydd, mae i’r etholiad oblygiadau holl bwysig i ddyfodol Cymru.

Mae’n drawiadol gweld sut mae cynifer o’r aelodau hynny sydd fwyaf brwd dros gryfhau Senedd Cymru wedi datgan eu cefnogaeth i Jeremy Miles. Yn yr un modd, mae llawer o’r mwyaf llugoer dros ddatganoli (aelodau seneddol yn San Steffan yn bennaf) yn gadarn y tu ôl i Vaughan Gething. Mae ambell eithriad wrth gwrs, gydag Eluned Morgan efallai y fwyaf amlwg o garfan Gymreig Llafur sy’n cefnogi Vaughan Gething, ond mae rhaniad pur bendant wedi datblygu er hynny.

Mae modd dehongli datganiad Neil Kinnock o gefnogaeth i Vaughan Gething fel cadarnhad pellach o hyn. Mae’r ymyrraeth hon gan y fath elyn i ddatganoli yn eironig â dweud y lleiaf. Wrth gefnogi Vaughan Gething fel Prif Weinidog Cymru, yr hyn mae Kinnock yn ei wneud, mewn gwirionedd, ydi ei gymeradwyo ar gyfer swydd nad yw’n credu yn ei bodolaeth.

Cymharol anaml mae’n gwneud unrhyw ddatganiadau o bwys am wleidyddiaeth Cymru bellach. Anodd osgoi’r casgliad, felly, ei fod yn gweithredu ar ran y Blaid Lafur Lundeinig, a bod ymdrechion bwriadol ar droed i sicrhau bod yr ymgeisydd sydd fwyaf derbyniol yn eu golwg nhw yn cael ei ethol.

Mae’n ymddangos eu bod yn gweld Vaughan Gething, sydd wedi bwrw prentisiaeth ers dyddiau coleg yn y Blaid Lafur, yn fwy dibynadwy fel rhywun fyddai’n cydymffurfio â gofynion y blaid ar lefel Prydain.

Ydi Jeremy Miles yn ymddangos yn rhy annibynnol ei farn ac yn ormod o Gymro i’r Blaid Lafur yn Llundain tybed?

‘Fficsio’ yn y cefndir

Mae tystiolaeth gynyddol hefyd o ‘fficsio’ yn digwydd y tu ôl i’r llenni. Mae’n amlwg fod peirianwaith Llafur yn camddefnyddio’u dylanwad ar yr undebau trwy eu cael i gefnogi Vaughan Gething. Defnyddiodd un undeb ryw esgus wantan i wrthod hawl i’w haelodau ddewis pwy oedden nhw am weld yr undeb yn ei gefnogi. Yn gwbl anghredadwy, mae’n ymddangos nad oes dim ffordd o sicrhau na fydd aelodau’n pleidleisio fwy nag unwaith.

Ar ben hyn, daeth adrodddiadau yn y dyddiau diwethaf fod ymgyrch Vaughan Gething wedi derbyn £200,000 o gyfraniad gan gwmni sy’n cael ei redeg gan ddyn gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol. Daeth i’r amlwg hefyd fod cwmni arall gyfrannodd at ei ymgyrch wedi ennill cytundeb offer PPE gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig.

Canlyniad hyn i gyd ydi y gallai fod drwgdeimlad sylweddol os mai Vaughan Gething fydd yn ennill yr etholiad, yn enwedig os bydd amheuon na chafodd ei ethol yn deg.

Arwydd arall o beiriant y Blaid Lafur Brydeinig ar waith ydi sawl erthygl o fawl sydd wedi bod iddo ym mhapur newydd The Guardian dros yr wythnosau diwethaf.

Thema gyson o dan yr wyneb yn yr erthyglau hyn ydi peth mor wych fyddai gweld Cymru’n ethol prif weinidog du. Er bod Vaughan Gething yn ofalus i osgoi defnyddio lliw ei groen yn agored fel rheswm dros bleidleisio drosto, does dim amheuaeth fod hyn yn cael ei hyrwyddo gan lawer o’i gefnogwyr.

Mi fyddai rhywun yn gobeithio na fyddai lliw ei groen yn unrhyw ystyriaeth wrth farnu addasrwydd Vaughan Gething ar gyfer y swydd. Mae’r dyhead ym mreuddwyd Martin Luther King i bobol gael eu barnu ar sail cynnwys eu cymeriad yn hytrach na lliw eu croen mor berthnasol heddiw ag erioed.

Ar yr un pryd, mae hyn yn golygu hefyd na ddylai ffaith fod rhywun yn ddu gael ei ystyried fel rhinwedd ynddi ei hun. Mae meddylfryd newyddiadurwyr Seisnig papurau fel The Guardian y byddai ethol Vaughan Gething yn ddatblygiad mor flaengar i Gymru yn arwydd o agwedd hynod nawddoglyd ar eu rhan.

Yn yr un modd, ni ddylai lliw croen unrhyw ymgeisydd ein dal yn ôl chwaith rhag dweud y dylai Prif Weinidog Cymru fod yn gallu siarad Cymraeg.

Mae Vaughan Gething yn cael ei ddyfynnu mewn erthygl yn yr un papur y byddai’n wych “cael dysgwr yn swydd y Prif Weinidog”. Eto i gyd, ac yntau wedi byw yng Nghymru ers dros chwarter canrif, a dal swyddi cyhoeddus allweddol dros y cyfnod, all rhywun ond dyfalu pam tybed na allai fod wedi gwneud mwy o ymdrech cyn hyn. Mae’n gwestiwn teg i’w ofyn, wrth inni weld dwy eneth fach o Wcráin yn siarad Cymraeg yn hyderus ar y newyddion yr wythnos yma ar ôl llai na dwy flynedd yng Nghymru.

Cytundeb â Phlaid Cymru

Beth, tybed, fydd effaith canlyniad y bleidlais ar y Cytundeb Cydweithio rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn y Senedd?

Yn swyddogol, cytundeb ar sail polisi ydi’r Cytundeb Cydweithio, ac nid rhwng arweinwyr nac unrhyw unigolion eraill a’i gilydd. Eto i gyd, os mai Vaughan Gething fydd yn ‘ennill’ y frwydr hon, a hynny dan gysgod o ddrwgdeimlad na fu’r ymgyrch yn gwbl deg, gallai cytundeb fod yn ddigon sigledig.

Pe byddai’r arweinydd newydd hefyd yn cael ei ethol fel dewis-ddyn Neil Kinnock, gallwn ddychmygu llawer iawn o bwysau gan gefnogwyr Plaid Cymru i gefnu ar y Cytundeb.

A hithau’n flwyddyn etholiad San Steffan, gellir dychmygu bod y bartneriaeth eisoes o dan gryn dipyn o straen. Mae’n amlwg fod Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i dramgwyddo’r bleidlais amaethyddol – pleidlais sy’n ymylol iddi hi, ond yn gwbl allweddol i Blaid Cymru.

Yn Nyffryn Conwy’r wythnos yma, roedd arwydd answyddogol ar ochr yr A470 ac arno’r slogan ‘Llafur yn lladd cefn gwlad’. Gallai’r ddelwedd o berthynas rhy agos â Llywodraeth Lafur Cymru fod yn wirioneddol niweidiol i Blaid Cymru wrth geisio cefnogaeth teuluoedd amaethyddol siroedd y gorllewin.

Effaith ar wleidyddiaeth

Gallwn ddychmygu y gallai rhai aelodau o Blaid Cymru gredu bod mantais wleidyddol o gael Plaid Lafur fyddai’n llawforwyn ufudd i Keir Starmer mewn grym yng Nghymru. Byddai hyn yn eu galluogi fel gwrthblaid i ddangos ‘dŵr gwyrdd clir’ rhyngddyn nhw a Llafur. Gallai’r gwahaniaeth rhwng y ddwy blaid fod yn llawer mwy annelwig o dan Jeremy Miles, fel y mae ar hyn o bryd i raddau o dan Mark Drakeford.

Gobaith Plaid Cymru hefyd fyddai manteisio ar bosibilrwydd o rwygiadau o fewn rhengoedd Llafur os bydd teimlad o annhegwch – gan weld yr ‘etholiad’ rhwng Alun Michael a Rhodri Morgan yn 1999 fel cynsail. Arweiniodd hyn at y canlyniad gorau erioed mewn unrhyw etholiad i Blaid Cymru ym mis Mai y flwyddyn honno. Does dim amheuaeth fod gweld y cam gafodd Rhodri Morgan wedi troi’r etholiad yn un arlywyddol ei naws gan alluogi Dafydd Wigley i fanteisio ar ei gryfderau a’i boblogrwydd yn erbyn Alun Michael.

Eto i gyd, camgymeriad fyddai i Blaid Cymru ddisgwyl i hanes ailadrodd ei hun mewn ffordd debyg y tro hwn. Mae sawl rheswm dros hyn.

I ddechrau, mae dros ddwy flynedd rhwng ethol arweinydd a’r etholiad nesaf, yn wahanol i ychydig wythnosau fel yn 1999, fyddai’n rhoi mwy o amser i unrhyw ffrae dawelu. Nid yw Jeremy Miles chwaith yn ffigwr mor amlwg ag oedd Rhodri Morgan, nac yn meddu ar sail mor gadarn o gefnogwyr o fewn y Blaid Lafur i gael eu cythruddo i’r un graddau. Yn yr un modd, does gan Rhun ap Iorwerth ddim yr un math o bresenoldeb yng ngwleidyddiaeth Cymru ag oedd gan Dafydd Wigley yn 1999. Ar hyn o bryd, mae’n anodd rhagweld unrhyw amodau allai arwain at dorri trwodd tebyg i’r hyn ddigwyddodd yn 1999.

Eto i gyd, ni ddylai Llafur gymryd ei phoblogrwydd yn ganiataol chwaith. Erbyn etholiad nesaf Senedd Cymru yn 2026, mae’n ddigon tebygol y bydd Llywodraeth Lafur â mwyafrif mawr yn Llundain. Hyd yn oed os bydd y Torïaid wedi cael eu chwalu’n llwyr, mae’n gwbl bosibl y byddai Llywodraeth Lafur Prydain yn hynod amhoblogaidd erbyn hynny.

Os mai Llywodraeth Lafur fydd yn glynu’n agos ati fydd yng Nghymru erbyn hynny, mi fydd yn wynebu dadrithiad difrifol erbyn 2026 – hyd yn oed os na fydd unrhyw blaid arall yn fygythiad gwirioneddol iddi.

Mae hyn am fod yn arbennig o wir os bydd yr etholiad hwnnw’n cael ei ymladd ar sail y rhestrau caeëdig arfaethedig, lle na fydd etholwyr yn gallu dewis unigolion i bleidleisio drostyn nhw. Mewn sefyllfa o’r fath, gallwn fod yn sicr hefyd y byddai’r rhestrau hynny yn llawn teyrngarwyr ufudd i’r Blaid Lafur yn Llundain.

Ar y llaw arall, prin y gallai Plaid Cymru ddisgwyl elwa ar y sefyllfa os bydd ei gwleidyddion yn dal mor benderfynol o gefnogi Mesur Diwygio’r Senedd fel y mae. Mi fyddai trefn bleidleisio mor ddiffygiol yn eu pardduo hwythau yn yr un modd.

Y canlyniad mwyaf tebygol fyddai troad allan truenus o isel, a’r drwg ydi y byddai dadrithiad yn y Blaid Lafur yn amharu ar hygrededd Senedd Cymru hefyd.

Yn realistig, mae unrhyw ragolygon o dwf yn y gefnogaeth i Senedd Cymru am ddibynnu ar gael Llywodraeth Lafur fydd yn dangos parodrwydd i dorri ei chwys ei hun. Gallai honno wedyn ddangos annibyniaeth barn fyddai’n ei gwahaniaethu oddi wrth rai o benderfyniadau amhoblogaidd Llywodraeth Lafur yn Llundain. Byddai’r gallu i gydweithio’n hapus gyda Phlaid Cymru hefyd yn ychwanegu llawer at sefydlogrwydd Llywodraeth Lafur o’r fath.

Mae llawer iawn yn y fantol yn yr etholiad hwn am arweinyddiaeth Llafur. O ystyried y cyfan rydym wedi ei weld yn yr ymgyrch hyd yma, does dim amheuaeth mai Jeremy Miles fyddai’r dewis gorau – i’r Blaid Lafur ac i Gymru.