Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi cyhuddo Rishi Sunak o fod yn “ddigywilydd” wrth fanteisio ar achos ffermwyr Cymru.

Dywed fod Plaid Geidwadol Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi torri cyllid ffermwyr, wedi tanseilio ffermwyr drwy gytundebau masnach, ac wedi blaenoriaethu elw archfarchnadoedd.

Daw ei sylwadau ar ôl i Rishi Sunak ymweld â ffermwyr fu’n protestio yng ngogledd Cymru.

O ystyried record amaethyddol ei lywodraeth, dywed ei fod yn “hollol ddigywilydd” wrth honni ei fod e’n cefnogi’r ffermwyr.

Pwysleisia fod Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig wedi tanseilio ffermwyr Cymru’n gyson, gan dorri £243m oddi ar eu cyllid ers Brexit, dod i gytundebau masnachu niweidiol ag Awstralia a Seland Newydd sy’n prisio cynhyrchwyr lleol allan, a galluogi archfarchnadoedd i ecsbloetio ffermwyr wrth iddyn nhw sicrhau elw sylweddol.

‘Pitw’

“Mae Rishi Sunak yn hollol ddigywilydd wrth honni ei fod e ar ochr ffermwyr Cymru,” meddai Liz Saville Roberts.

“Ei Lywodraeth Dorïaidd o sydd wedi torri £243m oddi ar gyllid ffermio Cymru ers Brexit.

“Ei Lywodraeth Dorïaidd o sydd yn tanseilio ein ffermwyr drwy gytundebau niweidiol efo Awstralia a Seland Newydd.

“Ei Lywodraeth Dorïaidd o sy’n galluogi archfarchnadoedd i sicrhau elw tra bod ein ffermwyr yn derbyn arian pitw.

“Dydy Sunak ddim yn malio o gwbl am ffermwyr Cymru, ac yn syml iawn mae’n neidio ar achos er mwyn ceisio craffu ychydig o bleidleisiau yn ôl.”

Rishi Sunak: “Mae’n ddrwg iawn gen i am yr hyn rydych chi’n mynd drwyddo”

Daeth ei sylwadau wrth iddo siarad gyda rhai o’r diwydiant amaeth yn ystod cynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yn Llandudno