Bydd Plac Porffor Cymru, y pymthegfed o’i fath, yn cael ei ddadorchuddio yn Abergwaun i gofio Jemima Nicholas heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 24).

Bydd Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Phrif Chwip Cymru’n siarad yn y digwyddiad, cyn dadorchuddio’r plac ger Neuadd y Dref am 12.30yp.

Hanes Jemima Nicholas

Yn ystod y digwyddiad, bydd caneuon a cherddi am Jemima Nicholas cael eu perfformio wrth i westeion gerdded tuag at ei bedd.

Mae hi’n cael ei chofio am ei rhan wrth wynebu her y goresgyniad gan 1,200 o filwyr Ffrengig yn Abergwaun yn 1797, sef y goresgyniad olaf ar dir Prydain gan lu milwrol.

Tra bod y milisia lleol a milwyr gwirfoddol yn disgwyl i ragor o filwyr gyrraedd o Aberdaugleddau a Hwlffordd i’w cynorthwyo, fe arweiniodd crydd 47 oed, Jemima Nicholas, griw o ferched i’r gad ar benrhyn Pen-caer (Strumble Head), gan ddal ryw ddwsin o filwyr arfog llu’r chwyldroadwyr Ffrengig heb un arf ond ei phicwarch a’i dewrder.

Mae hanes Jemima Nicholas mor adnabyddus mewn rhannau o Gymru fel y cyfeirir ati’n syml fel ‘Jemima’, ac mae hi hefyd yn cael ei hystyried yn gymeriad chwedlonol yn lleol.

Ond mae sail hanesyddol i’w stori, medd yr Athro Tony Davies, Athro Emeritws ym Mhrifysgol Caerdydd ac ymddiriedolwr gyda Chanolfan Goresgyniad Abergwaun, gafodd ei ffurfio i ddathlu daucanmlwyddiant goresgyniad aflwyddiannus y Ffrancod.

“Angorwyd pedwar llong ger Carreg Wastad, Pen-caer, gan ddadlwytho 17 cwch o filwyr, 47 casgen o bowdwr gwn, 50 tunnell o arfau a grenadau ar gyfer y llu o 1,200 a ddaeth i’r lan yn y nos,” meddai.

“Doedden nhw ddim yn llu disgybledig, ond aethon nhw o gwmpas yn ysbeilio ffermydd, a gwyddom fod 42 cais am iawndal gan Lywodraeth Prydain yn llwyddiannus o ganlyniad.”

Camodd Jemima Nicholas a’r criw o ferched oedd gyda hi i’r adwy, gan gerdded i wyneb perygl ar Chwefror 22, 1797.

“Gorymdeithiodd i’r pentir gyda dim ond picwarch a hynny pan oedd dros fil o filwyr yn yr ardal,” meddai wedyn.

“Dangosodd arweinyddiaeth a dewrder arbennig i fedru crynhoi dwsin o filwyr Ffrainc a’u hebrwng yn ôl i Abergwaun i’w dal fel carcharorion.”

Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach methodd y goresgyniad, a llofnododd y Ffrancod ddogfen yn ildio ar Draeth Gwdig ar Chwefror 24.

Cafodd yr Arglwydd Cawdor, y cadlywydd Prydeinig yn yr ardal, gymeradwyaeth gan y brenin, Siôr III, ond cafodd sylw ei roi hefyd i gampau Jemima Nicholas.

Ac yn nes ymlaen, cafodd hi bensiwn am oes o £5 y flwyddyn gan y Llywodraeth Brydeinig, fel mae dogfen gafodd ei darganfod yn ddiweddar yn ei ddangos.

“Rhaid ei bod hi wedi gwneud argraff ar y Llywodraeth iddyn nhw roi pensiwn oes iddi – fe wnaeth hi fyw tan ei bod hi’n 82 – ac rwy’n meddwl y dylai gael ei chydnabod nawr fel un o fenywod nodedig y ganrif honno,” meddai’r Athro Tony Davies.

Placiau Porffor Cymru

Syniad Aelodau’r Senedd, Julie Morgan a Jane Hutt, yn 2017 oedd cynllun y Placiau Porffor.

Eu hamcan yw nodi campau rhyfeddol menywod Cymru – rhai sy’n aml heb gael eu cydnabod – ac i helpu i adrodd eu straeon ysbrydoledig i’r genhedlaeth nesaf.

Yn ystod y seremoni, bydd y gantores leol Gwenno Dafydd, gafodd ei magu ym Mhen-caer lle glaniodd y Ffrancwyr, yn canu am yr hyn wnaeth Jemima Nicholas.

“Roedd Jemima yn fodel rôl i fi wrth dyfu lan fan hyn – roedd hi’n amlwg yn Gymraes danllyd a chryf,” meddai.

“Rwy’n teimlo bod angen i ferched gael mwy o gydnabyddiaeth am yr hyn maen nhw wedi ei gyflawni, ac mae hon yn ymgorffori model rôl cadarnhaol ar ein cyfer ni, er bod amser hir iawn wedi mynd heibio er y digwyddiad.”

‘Dewrder anhygoel menyw ryfeddol’

“Dangosodd Jemima Nicholas ddewrder anhygoel wrth wynebu ymosodiad gan 1,200 o filwyr Ffrainc yn Abergwaun,” meddai Jane Hutt.

“Roedd hi’n fenyw ryfeddol, ac mi ddylai fod yn ysbrydoliaeth inni i gyd.

“Mae’r Plac Porffor hwn yn deyrnged addas i’r gwaddol mae wedi’i adael, ac yn codi ymwybyddiaeth o’i stori, fel na wnawn ni fyth anghofio ei gwrhydri.”

Yn ôl Sue Essex, cyn-Aelod o’r Senedd a chadeirydd Placiau Porffor Cymru, roedd Jemima yn “fenyw wirioneddol arbennig yn ei chyfnod”.

“Mae’n wych ei bod nawr yn cael ei chofio wrth dderbyn un o’n Placiau Porffor ni,” meddai.

“Chafodd hi ddim ei hanrhydeddu’n gyhoeddus yn ystod ei hoes hyd y gwyddom, ac mae hi nawr yn ymuno â’r 14 menyw Gymreig nodedig arall rydym wedi eu hanrydeddu drwy’n hymgyrch hyd yn hyn.”