Mae Stadiwm Principality wedi cydweithio gyda Nimbus Disability, gan ddefnyddio eu technoleg Cerdyn Mynediad, er mwyn gwneud tocynnau a mynediad i’r stadiwm yn fwy cynhwysol i gefnogwyr ag anghenion hygyrchedd.
Bydd y system newydd yn caniatáu i gefnogwyr sydd angen tocynnau hygyrch archebu tocynnau ar gyfer digwyddiadau yn Stadiwm Principality ar-lein, drwy blatfform tocynnau Undeb Rygbi Cymru.
Cyn hyn, bu’n rhaid archebu tocynnau dros y ffôn.
Mae’r Cerdyn Mynediad hefyd yn cynnig mwy o breifatrwydd, gan na fydd angen i gefnogwyr ag anableddau gario dogfennau sy’n egluro eu cyflwr i staff.
“Bydd yr ateb arloesol hwn yn chwyldroi’r profiad tocynnau ar gyfer mynychwyr anabl, gan sicrhau y gallant archebu tocynnau yn ddi-dor, cael mynediad i’r stadiwm, a mwynhau popeth sydd gan ein lleoliad i’w gynnig,” meddai Mark Williams, Rheolwr Stadiwm Principality.
“Mae’r bartneriaeth hon yn cyd-fynd yn berffaith â’n hymrwymiad i greu amgylchedd cynhwysol a hygyrch i bawb cefnogwyr.”
‘Cysondeb’ i bobol ag anableddau
Pan fydd deiliaid cardiau yn archebu tocynnau ar-lein, bydd y cerdyn yn hysbysu’r system archebu tocynnau yn awtomatig am y gofynion mynediad sydd eu hangen ar unigolion.
“Mae’r Cerdyn Mynediad yn ymwneud â darparu cysondeb i bobol anabl – boed hynny’n mynd i gêm chwaraeon neu gyngerdd cerddoriaeth fyw,” meddai Martin Austin, Rheolwr Gyfarwyddwr Nimbus Disability.
Mae gan Martin Austin anabledd, a dywed mai cenhadaeth y cwmni yw darparu ffordd ddigidol o gyfleu’r holl ofynion mynediad.
“Mae ein system yn galluogi pob gofyniad mynediad sy’n cael ei fflagio i gael ei integreiddio’n uniongyrchol i systemau tocynnau er mwyn dileu’r angen i ffonio llinellau archebu ‘arbennig’ yn barhaus a llenwi ffurflenni archebu ‘arbennig’ neu ateb cwestiynau personol ac ymyrrol dros y ffôn,” meddai.
“Yn y pen draw mae ein system weithredu yn lleihau’r baich gweinyddol ar bobol anabl ac yn caniatáu mynediad cyfartal i archebu tocynnau ar-lein.”
Fel rhan o ymrwymiad Stadiwm Principality i brofiadau cyfartal, mae’r holl stiwardiaid hefyd yn dilyn hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd.
Mae gan y Stiwardiaid Hygyrchedd, sydd wedi’u lleoli wrth bob giât mynediad, dabardiau du a gwyn er mwyn sicrhau eu bod yn hawdd i’w hadnabod.