Mae ffermwyr Cymru’n cael eu hannog i roi eu hen welingtons i ffwrdd er mwyn cefnogi arddangosfa NFU Cymru yn y Senedd.
Bwriad yr arddangosfa yw tynnu sylw at effeithiau “andwyol” cynigion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, trwy gasglu 5,500 o barau o welingtons i’w gosod ar risiau’r Senedd – pâr i gynrychioli pob un o’r 5,500 o swyddi amaethyddol mae disgwyl y byddan nhw’n cael eu colli.
Mae’r ffigwr yn seiliedig ar asesiad effaith Llywodraeth Cymru, oedd yn edrych ar y canlyniadau pe bai holl ffermwyr Cymru’n ymuno â’r cynllun.
Gobaith NFU Cymru yw cynnal yr arddangosfa cyn i ymgynghoriad ‘Cadw Ffermwyr Ffermio’ ar Gynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru ddod i ben ddydd Iau, Mawrth 7.
Gall y rhai sy’n dymuno cymryd rhan wneud hynny drwy fynd â’u welingtons i un o nifer o fannau casglu cyn dydd Gwener, Mawrth 1.
Mae’r rhain yn cynnwys siopau a depos Wynnstay, storfeydd a depos Ffermwyr Clynderwen ac Aberteifi (CCF), swyddfeydd NFU Cymru ac NFU Mutual, neu fynd â nhw i unrhyw gyfarfod NFU Cymru cyn Mawrth 1.
‘Heddychlon ond dylanwadol’
Dywed NFU Cymru eu bod nhw’n chwilio am welingtons mewn unrhyw gyflwr, cyn belled â’u bod yn lân pan fyddan nhw’n cael eu trosglwyddo.
“Rydym am wneud datganiad gwirioneddol i wleidyddion a’r cyhoedd am effaith syfrdanol y cynigion hyn ar swyddi amaethyddol yng Nghymru,” meddai Paul Williams, un o drefnwyr yr arddangosfa.
“Nid wrth gât y fferm yn unig y bydd yr effaith i’w theimlo, ond ar draws y gadwyn gyflenwi a thrwy ein cymunedau gwledig.
“Drwy osod y 5,500 o barau hyn o welingtons ar risiau’r Senedd, byddwn yn rhoi darlun clir o wir effaith y cynigion hyn ar ein sector.
“Mae hon yn ffordd o wneud ein pwynt mewn ffordd heddychlon ond dylanwadol, ond mae angen cymorth ffermwyr i’w wireddu.”
Ychwanega Llŷr Jones, y cyd-drefnydd, eu bod nhw’n ddiolchgar i’r cwmnïau sydd wedi cefnogi’r fenter.
“Byddwn yn annog unrhyw ffermwyr sydd â hen welingtons yn gorwedd o gwmpas ar y fferm i fynd â nhw i ganolfan gasglu a’n helpu ni i wneud defnydd da ohonynt,” meddai.
Bydd yr holl welingtons ail-law yn cael eu hailgylchu neu eu rhoi i elusen ar ôl i’r arddangosfa gael ei thynnu i lawr.