Mae cynghorydd Plaid Cymru yng Nghaerffili wedi cael cerydd ynghylch neges ddadleuol ar ei dudalen Facebook bersonol.
Postiodd Jon Scriven lun ohono fe ei hun yn dal reiffl ar draeth ar Awst 8, 2022, ynghyd â chapsiwn yn dweud “Aberogwr heno i nofio’n gyflym a gwneud yn siŵr nad oedd unrhyw Saeson yn ceisio croesi’r sianel.”
Yn y pen draw, fe wnaeth cynrychiolydd ward Penyrheol gyfaddef ei fod e wedi cyflawni trosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus oedd wedi’i hysgogi gan hiliaeth.
Cafodd ei ddiarddel o’i blaid, a chafodd y mater ei drosglwyddo i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
“Nifer o gwynion” a “sylw negyddol”
Yng nghyfarfod Pwyllgor Safonau Cyngor Caerffili heddiw (dydd Gwener, Chwefror 23), dywedodd Annie Ginwalla, diprrwy ymgynghorydd cyfreithiol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, fod y neges Facebook wedi sbarduno “nifer o gwynion” ac wedi arwain at “cryn sylw negyddol gan y cyfryngau”.
Dywedodd wrth y pwyllgor fod Cod Ymddygiad y Cyngor “yn berthnasol bob amser ac mewn unrhyw gapasiti”.
“Rhaid i aelodau beidio ymddwyn mewn ffordd… sy’n dwyn anfri arnyn nhw eu hunain na’u swydd,” meddai.
Daeth yr ombwdsmon i’r “casgliad nad oedd y neges yn briodol”, meddai
Awgrymodd swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru y gallai’r pwyllgor gyflwyno gwaharddiad “byr neu ganolig” am yr hyn roedd Annie Ginwalla yn ei alw’n ddigwyddiad “diofal” oedd â’r “gallu i danseilio hyder y cyhoedd” yn y Cynghorydd Jon Scriven a’r Cyngor.
‘Jôc’
Yn ychwanegol at y digwyddiad roedd “diffyg dealltwriaeth” y Cynghorydd Jon Scriven o’r canllawiau ynghylch y defnydd o gyfryngau cymdeithasol, a’i “syndod nad oedd y neges yn cael ei hystyried yn jôc”, meddai wrth y pwyllgor.
Ond roedd ymddygiad y cynghorydd wedi’i leihau gan ei “wasanaeth da blaenorol”, y ffaith mai digwyddiad “untro” oedd hwn, a’i gydweithrediad â’r ymchwiliad, meddai.
Dywedodd y Cynghorydd Jon Scriven wrth y pwyllgor fod y neges wedi’i bwriadu fel “dim byd ond jôc”, ac “nad oedd neb wedi cwyno” ar y dechrau hyd nes bod lluniau o’r neges gafodd ei rhannu ar Twitter.
“Mae’n amlwg nad ydw i’n hiliol,” meddai wrth y pwyllgor, gan ychwanegu ei fod e wedi cydweithio â “phob hil a lliw” yn ei glwb paffio, a bod ganddo ffrind agos sy’n Sais.
“Mae hyn wedi bod yn mynd yn ei flaen am ddeunaw mis,” meddai.
“Mae wedi achosi llawer o boen a straen i fi a’m teulu.”
Dywedodd wrth y pwyllgor hefyd ei fod e “wedi cadw draw” o’r cyfryngau cymdeithasol yn dilyn y digwyddiad.
Casgliad
Ar ôl pwyso a mesur, daeth y pwyllgor i’r casgliad fod y Cynghorydd Jon Scriven wedi torri Cod Ymddygiad y Cyngor, ond wnaeth aelod mo’i ddiarddel.
Fe wnaethon nhw geryddu’r cynghorydd, gan argymell “rhagor o hyfforddiant” iddo ynghylch y Cod Ymddygiad a’r defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol.
Mae gan y Cynghorydd Jon Scriven 21 diwrnod i apelio yn erbyn penderfyniad y pwyllgor, pe bai’n dymuno gwneud hynny.