Mae’r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi cydymdeimlo â ffermwyr yn sgil yr heriau sy’n wynebu’r diwydiant amaeth ar hyn o bryd.
Daw hyn wrth i’r diwydiant brotestio yn erbyn Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.
Wrth iddo gyrraedd cynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yn Llandudno heddiw (dydd Gwener, Chwefror 23), fe stopiodd i siarad â chriw o ffermwyr oedd wedi ymgasglu tu allan i’r gynhadledd.
“Mae’n ddrwg iawn gen i am beth rydych chi’n mynd trwyddo,” meddai.
“Rwyf wedi bod yn siarad â llawer o ffermwyr dros yr wythnosau diwethaf ac yn arbennig gyda chynrychiolwyr y ddau undeb ffermio, cawsom sesiwn dda ddoe a gwn pa mor grac a rhwystredig ydych chi gyda chynlluniau Llafur ar gyfer ffermio yng Nghymru.
“Nid yw’n iawn o gwbl, mae’r effaith y bydd yn ei chael ar eich swyddi, eich bywoliaeth, eich incwm a chynhyrchu bwyd yn ein gwlad yn anghywir, ac rwy’ am i chi wybod fod Andrew [RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig] a Sam [Kurtz, llefarydd y blaid dros Faterion Gwledig] a’r tîm yma yn mynd i’w dwyn nhw i gyfrif.
“Rydyn ni’n mynd i wneud popeth o fewn ein gallu, oherwydd rydym yn eich cefnogi chi.”
Disodli cymorthdaliadau’r Undeb Ewropeaidd
Mae’r diwydiant yn bryderus am yr hyn y bydd gofynion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn ei olygu i’w bywoliaeth.
Mae 17 gofyniad er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cymorth ariannol newydd, gan gynnwys ymrwymiad i blannu coed ar 10% o dir fferm.
Yn ôl adroddiad gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, byddai hyn yn golygu gostyngiad sylweddol mewn niferoedd da byw, ynghyd â cholli miloedd o swyddi.
Mae cynllun newydd hefyd wedi’i gynnig gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn disodli’r grantiau roedd y diwydiant amaeth yn arfer derbyn gan yr Undeb Ewropeaidd.
Yr wythnos hon, addawodd Rishi Sunak becyn o fesurau i helpu ffermwyr, a chafodd groeso cyffredinol gan yr NFU er iddo ddweud nad oes unrhyw arian newydd wedi’i gynnwys yn y pecyn.
Mae eraill wedi beirniadu’r cynllun am iddo flaenoriaethu materion amgylcheddol dros y gallu i gynhyrchu bwyd.
Fodd bynnag, dim ond ffermwyr yn Lloegr fydd yn gweld y pecyn yma, gan mai Llywodraeth Cymru sydd yn gyfrifol am gymorthdaliadau amaeth yng Nghymru.