Mae rôl Cymru yn y berthynas rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd wedi lleihau’n sylweddol ers Brexit, gyda thrafodaeth ddemocrataidd agored wedi’i ddisodli gan ddictad a phenderfyniadau’n cael eu gwneud yn y cysgodion, yn ôl Aelodau’r Senedd.

Arweiniodd Huw Irranca-Davies, aelod o feinciau cefn Llafur, y ddadl yn y Senedd ar adroddiad Pwyllgor y Cyfansoddiad, yn dilyn ymchwiliad i lywodraethiant rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.

Dywed fod perthynas y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn dal o bwys mawr i drigolion Cymru, a’i bod yn parhau i gael effaith ar nifer o agweddau ar fywydau pobol.

Fe wnaeth y cyn-Aelod Seneddol grybwyll tystiolaeth gan dystion fod rôl llywodraethau datganoledig yn broses o wneud penderfyniadau rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd wedi lleihau ar ôl Brexit.

Wrth alw am strategaeth benodol ar yr Undeb Ewropeaidd, fe wnaeth Huw Irranca-Davies, sy’n cynrychioli Aberogwr, annog y Prif Weinidog nesaf i ailsefydlu grŵp ymgynghori ar Ewrop.

‘Dictad gweithredol’

Mae cadeirydd y pwyllgor wedi’i siomi fod Llywodraeth Cymru ond wedi derbyn pump o’r ugain argymhelliad yn llawn yn eu hymateb, er iddyn nhw gytuno ag ysbryd yr adroddiad.

Wrth wawdio’r slogan “Cymerwch reolaeth yn ôl” gafodd ei ddefnyddio yn y refferendwm yn 2016, cododd Alun Davies bryderon am symud grym oddi wrth ddemocratiaeth seneddol tuag at ddictad gweithredol.

Rhybuddiodd yr Aelod Llafur o’r Senedd fod llywodraethiant o’r berthynas â’r Undeb Ewropeaidd wedi mynd o fod yn drafodaeth ddemocrataidd agored tuag at gysgodion y gwasanaeth sifil a phenderfyniadau rhwng gweinidogion.

Tynnodd e sylw at drosglwyddo grym o Gymru i San Steffan.

“Dydy hynny ddim wedi cael ei wneud drwy ddadl na phenderfyniad democrataidd,” meddai.

“Mae wedi cael ei wneud drwy ddileu hawliau’r lle hwn i ddeddfu mewn ffordd mae pobol Cymru wedi’i cheisio drwy refferendwm.”

‘Dileu’

“Heddiw, prin y gallwn ni ddod o hyd i bàs i gael i mewn i’r adeilad,” meddai Alun Davies, sy’n cynrychioli Blaenau Gwent, gan ychwanegu bod Cymru wedi helpu i siapio penderfyniadau o fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

“Nid yn unig mae ein gallu i ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n cael effaith alltiriogaethol wirioneddol ar bobol yng Nghymru wedi lleihau, ond mae wedi’i ddileu.”

Cododd James Evans, y Ceidwadwr sy’n cynrychioli Brycheiniog a Maesyfed, bryderon fod Cymru’n colli ei llais mewn trefniadau llywodraethiant.

Dywedodd y gallai Comisiwn Ewrop a Llywodraeth y Deyrnas Unedig wneud penderfyniadau unochrol i newid trefniadau tynnu’n ôl heb oruchwyliaeth ddatganoledig.

Fe wnaeth e gefnogi galwad y pwyllgor ar i Lywodraeth Cymru dderbyn rôl lawn yn y cyngor partneriaeth, ac i barhau i gael statws arsylwi ym mhob cyfarfod perthnasol.

‘Sylweddol’

Fe wnaeth Adam Price feirniadu Llywodraeth Cymru am nad ydyn nhw bellach yn monitro datblygiadau polisi a deddfwriaethol ledled yr Undeb Ewropeaidd yn ddiofyn.

“Dyma’r farchnad bwysicaf i Gymru – mae’n dal yn arwyddocaol dros ben – os ydyn ni am gael mynediad at y farchnad honno, er mwyn gwybod beth sy’n digwydd yn nhermau rheoleiddio,” meddai.

Fe wnaeth e ddadlau y dylai Cymru ddilyn yr Alban wrth barhau i alinio rheoliadau â’r Undeb Ewropeaidd, ac fe alwodd ar i Gymru ymuno â rhwydweithiau megis Cynulliad Rhanbarthau Ewrop.

Cododd cyn-arweinydd Plaid Cymru bryderon mai dim ond un Aelod o’r Senedd hyd yn hyn sydd wedi cael eu hariannu i ymweld â Brwsel ers etholiad 2021.

Fe wnaeth ei gydweithiwr Delyth Jewell, sy’n cadeirio Pwyllgor Cysylltiadau Rhyngwladol y Senedd, ategu’r galwadau am strategaeth benodol ar yr Undeb Ewropeaidd gan Lywodraeth Cymru.

Trafodaethau “wedi’u rhuthro”

Fe wnaeth Rhys ab Owen feirniadu Llywodraeth y Deyrnas Unedig am dynnu arian yn ôl sy’n galluogi sefydliadau Cymreig i gymryd rhan yn y grŵp cynghori cartref a’r fforwm cymdeithas sifil.

“Mae hyn yn ddiffyg cydraddoldeb clir o ran grym, gan y bydd yn golygu bod sefydliadau Cymreig yn cael eu torri allan o sgyrsiau pwysig,” meddai.

Wrth ymateb i’r ddadl ddydd Mercher (Chwefror 21), dywed Mick Antoniw fod gweinidogion y Deyrnas Unedig wedi rhuthro’r trafodaethau a chyflwyno cytundeb masnach a chydweithio ar y dechrau.

Fe wnaeth gweinidog y cyfansoddiad adleisio rhybudd Mark Drakeford fod newidiadau sylweddol i’r berthynas rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn afrealistig tan ar ôl yr etholiad cyffredinol a’r etholiadau Ewropeaidd.

“Mae’r rhain yn darparu cyfleoedd gwirioneddol ar y ddwy ochr am ymgysylltu mewn modd mwy ffres ac ar gyfer ysbryd mwy positif wrth symud ymlaen,” meddai Mick Antoniw.

“Byddwn ni’n gwneud popeth allwn ni i hwyluso a chefnogi hynny.”