Mae’r cynlluniau i drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru yn “ddigynsail”, yn ôl Gweinidog Trafnidiaeth y Deyrnas Unedig
Daw sylwadau Mark Harper yn dilyn cyfarfod ag aelodau seneddol, cynghorwyr ac arweinwyr busnes yn Llandudno heddiw (dydd Gwener, Chwefror 23).
Addawodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y byddan nhw’n ymrwymo £1bn er mwyn trydaneiddio’r rheilffordd a gwella’r gwasanaethau rhwng Crewe a Chaergybi, yn dilyn gohirio’r prosiect HS2 yn ôl yn fis Hydref.
Disgrifiodd Mark Harper Brif Reilffordd gogledd Cymru fel “cyswllt trafnidiaeth hanfodol”, gan addo y bydd y cynllun yn darparu gwasanaethau rheilffordd “cyflymach a mwy dibynadwy” i deithwyr yng ngogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr.
“Mae ein cynllun yn bosibl oherwydd ein penderfyniad i ailddyrannu pob ceiniog o’r £36bn gafodd ei arbed wrth ohirio HS2 i gannoedd o brosiectau trafnidiaeth ledled y Deyrnas Unedig,” meddai.
“Bydd y gwaith uwchraddio mawr hwn yn gwella teithiau rheilffordd, yn gwella cysylltiadau â swyddi, ac yn helpu i dyfu’r economi.”
Fodd bynnag, fe fu Plaid Cymru’n galw am fwy o fuddsoddiad yn nhrafnidiaeth Cymru, gan honni bod mwy o arian yn ddyledus i Gymru drwy Fformiwla Barnett.
Mae Vaughan Gething, Gweinidog Economi Cymru, hefyd wedi cwestiynu a fydd £1bn yn ddigonol.
Dim amserlen
Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Mark Harper wrth asiantaeth newyddion Press Association fod y buddsoddiad yn “ddigynsail yn y rhan hon o’r byd”.
Ychwanegodd fod cefnogaeth drawsbleidiol wedi bod i’r cynllun.
“Mae’n fuddsoddiad mawr. Mae pobol yn ei groesawu’n fawr,” meddai.
Yn ôl y Gweinidog, buon nhw’n trafod y gwersi gafodd eu dysgu o geisio trydaneiddio mewn mannau eraill, megis y rheilffordd rhwng Llundain a de Cymru aeth dros y gyllideb ddisgwyliedig o £900m.
“Rydyn ni wedi dysgu llawer o drydaneiddio lein y Great Western,” meddai Mark Harper.
Dywedodd ei bod yn rhy gynnar i roi amserlen ar gyfer pryd fydd y prosiect trydaneiddio wedi ei gwblhau ar hyn o bryd.