Mae disgwyl bydd Aelodau’r Ceidwadwyr Cymreig yn beirniadu’r Blaid Lafur yn gryf yn ystod eu cynhadledd yn Llandudno heddiw (dydd Gwener, Chwefror 23).

Ymysg y rheiny fydd yn annerch y gynhadledd mae Andrew RT Davies, arweinydd y blaid yng Nghymru.

Mae disgwyl y bydd yr arweinydd yn cyhuddo Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru o flaenoriaethu’r pethau anghywir yn eu Cytundeb Cydweithio.

Mae disgwyl y bydd e’n dweud: “Yn lle cyflogi mwy o feddygon, nyrsys ac athrawon, mae Llafur eisiau mwy o wleidyddion.

“Mae eu cynlluniau ar gyfer diwygio’r Senedd yn brosiect oferedd.

“Bydd yn costio £120m. Dylai’r arian hwnnw fod yn mynd i’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.”

‘Ffrind i ffermwyr’

Ar ben hynny, mae disgwyl y bydd Andrew RT Davies yn beirniadu Plaid Cymru am bortreadu eu hunain fel “ffrindiau” i’r sector amaeth.

“Efallai y byddan nhw’n rhoi argraff dda pan maen nhw’n cyfarfod â’n cymunedau gwledig, ond cyn gynted ag y maen nhw’n ôl yn eu siwtiau ym Mae Caerdydd, maen nhw’n galluogi Llafur i ddinistrio ein diwydiant ffermio.

“Gadewch i mi fod yn glir, bydd y Ceidwadwyr Cymreig bob amser yn hyrwyddo ein ffermwyr.”

Daw hyn wrth i nifer helaeth o ffermwyr Cymru brotestio yn erbyn Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru oherwydd pryderon am yr effaith ariannol y bydd yn ei gael arnynt.

Mae hefyd disgwyl iddo addo y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cael gwared ar y terfyn cyflymder 20 m.y.a. a ddaeth i rym fis Mehefin tra hefyd yn ymrwymo i gynnig “cyfraddau busnes teg” i fusnesau bach a chanolig.

Ymgeiswyr Llafur Cymru ‘rhy debyg’

Hefyd yn siarad fydd David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Mae disgwyl y bydd yr Aelod Seneddol yn beirniadu’r ddau ymgeisydd yn ras arweinyddol Llafur Cymru, Jeremy Miles a Vaughan Gething.

Mae disgwyl iddo ddweud ei fod yn credu bod y ddau ymgeisydd yn llawer rhy debyg i’w gilydd, a’i fod wedi anfon union yr un llythyr at y ddau ymgeisydd er mwyn ceisio cyfleu hynny.

Mae’n debygol y bydd ei bryderon yn debyg iawn i’r rheiny fydd Andrew RT Davies yn eu lleisio.

Mae’r rhain yn cynnwys gwrthwynebiad i’r terfyn cyflymder 20m.y.a., y gwaharddiad ar adeiladu ffyrdd newydd, a’i gred fod angen mwy o ddoctoriaid a nyrsys yng Nghymru yn hytrach na mwy o wleidyddion.

Bydd Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, hefyd yn bresennol, a hynny fel rhan o’i daith ddeuddydd yng ngogledd Cymru.

Roedd e eisoes wedi beirniadu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn ystod ei ymweliad, gan ddweud bod Llywodraeth Cymru’n “dilyn y llwybr anghywir”.