Mae gwleidyddion yn dweud ei fod yn “siomedig” clywed bod Vaughan Gething, un o’r ddau ymgeisydd yn ras arweinyddol Llafur Cymru, wedi derbyn £200,000 gan gwmni sy’n cael ei redeg gan droseddwr amgylcheddol.
Cafodd David Neal, sy’n rhedeg cwmni Dauson Environmental Group, ddedfryd o garchar wedi’i gohirio yn 2013 am dipio gwastraff yn anghyfreithlon ar safle cadwraeth.
Bedair blynedd wedyn, cafodd ei erlyn eto am beidio clirio’r llanast.
Mae Vaughan Gething yn dweud bod pob rhodd iddo’n cael ei datgan yn unol â’r rheolau.
Mae Aelod Senedd De Caerdydd a Phenarth, sydd hefyd yn Weinidog yr Economi, yn sefyll yn erbyn Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg, yn y ras i gymryd lle Mark Drakeford fel Prif Weinidog ac arweinydd Llafur.
‘Camddyfarniad’
Dywed Democratiaid Rhyddfrydol Cymru fod penderfyniad Vaughan Gething i dderbyn y cyfraniad yn “gamddyfarniad clir”.
“Yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig, rydyn ni wedi gweld yr effaith niweidiol mae llygrwyr esgeulus yn ei chael,” meddai Jane Dodds, arweinydd y blaid.
“Mae nifer o bobol yng Nghymru’n poeni am y mater hwn, a does dim amheuaeth y byddan nhw’n cwestiynu penderfyniad Mr Gething.
“Rhaid i ni, fel cenedl, weithredu o ddifrif yn erbyn llygru anghyfreithlon a phobol sy’n tipio gwastraff.”
Wrth ymateb ar X (Twitter gynt), dywed Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru, nad oes modd cyfiawnhau gwario £200,000 ar etholiad mewnol yn ystod argyfwng costau byw.
“Dw i ddim eisiau i hwn fod yn ymgyrch negyddol ond dw i wir wedi fy synnu ac yn flin am hyn,” meddai.
“Mae’n anghywir.”
‘Wedi’u gwirio a’u cofnodi’
Cafodd un o’r cyfraniadau o £100,000 eu rhoi gan Dauson Environmental Group fis diwethaf, a’r hanner arall bum niwrnod ar ôl i Mark Drakeford ymddiswyddo.
Mae Vaughan Gething wedi addo cyflwyno cosbau llymach i’r rhai sy’n torri rheolau amgylcheddol pe bai’n dod yn Brif Weinidog.
Wrth gymryd rhan yn y ddadl rhyngddo ef a Jeremy Miles ar BBC Wales neithiwr (Chwefror 21), dywedodd Vaughan Gething fod yr holl gyfraniadau wedi cael eu “gwirio a’u cofnodi’n briodol gyda’r Comisiwn Etholiadol” ac wedi’u datgan i’r Senedd.
Ymateb
“Mae Dauson Environmental Group Limited wedi cyfrannu at ymgyrch arweinyddol Vaughan Gething,” meddai llefarydd ar ran ei ymgyrch.
“Caiff yr holl roddion eu datgan i’r Senedd ac i’r Comisiwn Etholiadol yn unol â’r rheolau ac ymrwymiad Vaughan i dryloywder.
“Mae’n fater o gofnod cyhoeddus nad yw gweinidogion Llywodraeth Cymru’n gwneud penderfyniadau ar fuddsoddiadau unigol na benthyciadau sy’n cael eu darparu gan Fanc Datblygu Cymru.
“Rydyn ni’n ymwybodol o faterion presennol yn ymwneud â Withyhedge Landfill ac, fel sy’n wir am unrhyw achos o’r fath, byddem yn annog ymchwiliad llawn o’r materion a datrysiad cyn gynted â phosib, yn unol â chyfarwyddyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
“Rydyn ni wedi cysylltu â’r cwmni, ac wedi cael sicrwydd eu bod nhw’n mynd i’r afael â’r materion, a’u bod nhw ar y trywydd iawn i fodloni amserlen Cyfoeth Naturiol Cymru.
“Mae maniffesto arweinyddol Vaughan Gething yn addo cryfhau camau gweithredu er mwyn gwarchod yr amgylchedd, ac yn addo cosbau llymach ar gyfer y sawl sy’n torri rheolau amgylcheddol.”