Bydd Crefft Migldi Magldi, sy’n bartneriaeth rhwng Angharad Jones a Tesni Calennig, yn agor gweithdai ac oriel yn hen efail hanesyddol Cei Llechi yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn (Chwefror 22).

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 6yh a 10yh, gan nodi dechrau eu menter newydd sy’n gobeithio “meithrin doniau” crefftwyr ifainc Cymreig wrth gyfoethogi’r gymuned leol.

Mae’r bartneriaeth wedi’i hysbrydoli gan hwiangerdd Gymraeg o’r un enw.

Mae Angharad Jones a Tesni Calennig yn gyn-fyfyrwyr yn Ysgol Brynrefail a Pharc Menai, ac maen nhw’n cychwyn ar y daith broffesiynol wedi iddyn nhw raddio o’r brifysgol, lle buon nhw’n astudio crefft, yn haf 2023.

Bwriad yr artistiaid yw cynnig dosbarthiadau hygyrch er mwyn dysgu am waith arian, dur a phiwter yn y dyfodol.

Bydd yr agoriad yn gyfle i’r cyhoedd brofi “creadigrwydd a chynhesrwydd” y gymuned gelf leol.

Ysbrydoli gan chwedlau

Arbenigedd Angharad Jones o Fethel, wedi iddi raddio o Goleg Celf Henffordd, yw creu darluniau a gemwaith o arian a phiwter.

Caiff ei hysbrydoli gan straeon naratif a chwedlonol.

“Rwy’n edrych ymlaen at ddod i adnabod cwsmeriaid yn bersonol a chreu gemwaith unigryw ar eu cyfer,” meddai.

“Yng Nghei Llechi, fy nod yw meithrin cymuned ac amgylchedd diogel a chroesawgar i unigolion eraill sy’n awtistig ac yn LHDTC+ yng ngogledd Cymru.”

Creu gemwaith arian a gwaith gof mae Tesni Calennig yn ei wneud, a hithau wedi graddio o Brifysgol Brighton.

Mae hi wedi creu llestri a bwrdd bwyta sydd wedi’u hysbrydoli gan y chwedl Blodeuwedd a bydd y rhain i’w gweld yng Nghei Llechi.

“Y tro cyntaf erioed i mi roi cynnig ar gof oedd yng Nghei Llechi pan oeddwn yn ddeuddeg oed,” meddai Tesni Calennig.

“Mae wedi teimlo’n arbennig iawn dod ddeng mlynedd yn ddiweddarach a dyma fy man gwaith.

“Mae bod yn gof mewn safle mor hanesyddol a dysgu am hanes Brunswick gan y perchennog blaenorol wedi bod yn ysbrydoledig iawn, ac edrychaf ymlaen at gynhyrchu mwy o waith sydd wedi’i ysbrydoli gan ein treftadaeth.”