Wrth i weithwyr yng Nghymru gael eu hannog i beidio gweithio tu hwnt i’w horiau heddiw (dydd Gwener, Chwefror 23), mae ystadegau’n dangos bod gwerth £634m o waith tu hwnt i oriau cyflogedig wedi cael ei gwblhau dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae gor-oriau’n fwyaf cyffredin yn y sector cyhoeddus, gydag athrawon yn gwneud mwy o waith di-dâl tu hwnt i’w horiau gwaith nag unrhyw weithwyr eraill.

Mae’r ystadegau diweddaraf wedi’u cyhoeddi gan Gyngres Undebau Llafur Cymru, y TUC, wrth iddyn nhw gynnal yr ugeinfed diwrnod blynyddol.

Ar y diwrnod hwn, caiff gweithwyr eu hannog i gymryd seibiant o’r gwaith mae ganddyn nhw hawl i’w gymryd, ac i adael y gwaith yn brydlon ar ddiwedd eu shifft.

Mae disgwyl i reolwyr gefnogi ac annog eu staff drwy osod llwyth gwaith rhesymol, a rhoi polisïau yn eu lle er mwyn atal gor-flinder.

Casgliadau

Fe wnaeth yr arolwg ganfod:

  • fod 130,000 o weithwyr yng Nghymru wedi gweithio oriau di-dâl yn 2023, neu 6.2 awr yr wythnos, a chyfwerth â £5,819 o waith di-dâl dros y flwyddyn gyfan.
  • mai athrawon (40%) sy’n gwneud y nifer fwyaf o oriau di-dâl
  • bod prif weithredwyr, rheolwyr a chyfarwyddwyr yn gwneud mwy na’u cyfran deg o waith, sy’n awgrymu nad yw cyflogwyr yn rheoli eu llwyth gwaith
  • bod gor-oriau di-dâl yn fwyaf cyffredin yn y sector cyhoeddus, gydag un ym mhob chwech (16.7%) yn gweithio oriau di-dâl – o gymharu ag un ym mhob naw (11.9%) yn y sector preifat
  • y gwnaeth staff y sector cyhoeddus werth £11bn o oriau di-dâl er mwyn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau – mwy na deg miliwn awr o waith di-dâl bob wythnos
  • bod angen cryfhau’r rheolau ar gyfer cofnodi oriau gwaith gan gyflogwyr

Cofnodi oriau

Yn 2019, dyfarnodd Llys Cyfiawnder Ewrop y dylai cyflogwyr greu “system wrthrychol, ddibynadwy a hygyrch” ar gyfer cofnodi oriau gwaith.

Roedd y rheol yn berthnasol i’r Deyrnas Unedig cyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig addasu’r gyfraith yn dilyn Brexit, gan leihau hawliau gweithwyr.

Bellach, dim ond cofnodion “digonol” sydd angen i gyflogwyr eu cadw ar gyfer oriau gwaith eu gweithwyr.

‘Bydd y cyflogwyr gorau’n cefnogi eu gweithwyr’

“Rydyn ni’n annog pob gweithiwr i gymryd eu hamser cinio ac i orffen yn brydlon heddiw,” meddai Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru.

“Ac rydyn ni’n gwybod y bydd y cyflogwyr gorau’n eu cefnogi nhw i wneud hynny.

“Does dim ots gan y rhan fwyaf o weithwyr yng Nghymru wneud oriau ychwanegol o dro i dro, ond dylen nhw gael eu talu amdanyn nhw.

“Rhan o’r broblem yw nad yw rhai cyflogwyr yn cadw cofnod o or-oriau staff, a phan nad ydyn nhw’n eu cofnodi dydyn nhw ddim yn talu.

“Mae gweinidogion Ceidwadol yn gwybod am y broblem hon, ond maen nhw’n gwrthod tynhau’r rheolau ar gofnodion cyflogwyr.

“Dydy hynny ddim yn ddigon da.

“Mae pobol sy’n gweithio’n haeddu Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig sydd ar eu hochr nhw.”