Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo cwmni ynni OVO o “ddirmyg llwyr” at y Gymraeg a’u cwsmeriaid Cymraeg, yn dilyn y penderfyniad i ddirwyn gwasanaeth ffôn a biliau Cymraeg i ben.

Mae’r cwmni bellach yn cynghori eu cwsmeriaid i droi at Google Translate i ddarllen eu biliau yn Gymraeg

Mae Plaid Cymru wedi ymateb i’r newyddion bod y cwmni OVO Energy yn bwriadu dod â’i wasanaeth ffôn Cymraeg a biliau iaith Gymraeg i ben, yn ogystal â chynghori cwsmeriaid i ddefnyddio Google Translate i ddarllen eu biliau trwy’r Gymraeg.

Unodd OVO Energy â Swalec yn 2013, gan dderbyn cyfrifoldeb am eu gwasanaeth Cymraeg ar y pryd.

Y cwmni ynni yw’r diweddaraf i ddirwyn gwasanaeth Cymraeg i ben, ar ôl HSBC

‘Diffyg ymwybyddiaeth ddiwylliannol ac ieithyddol difrifol’

Yn ôl Heledd Fychan, llefarydd Plaid Cymru dros y Gymraeg a Diwylliant, mae’r penderfyniad yn dangos “diffyg ymwybyddiaeth ddiwylliannol ac ieithyddol difrifol”.

“Mae hyn yn dangos dirmyg llwyr at yr iaith a siaradwyr y Gymraeg,” meddai.

“Er bod gennym Gomisiynydd y Gymraeg a hawliau fel siaradwyr, mae’r cwmni hwn yn meddwl ei bod hi’n iawn i’n trin fel dinasyddion eilradd.

“Mae’n hollol warthus – heb sôn am sarhaus – eu bod yn awgrymu bod cwsmeriaid yn rhoi eu biliau drwy Google Translate er mwyn eu darllen yn Gymraeg.

“Rhaid i Gomisiynydd y Gymraeg gamu i’r adwy i sicrhau bod y cwmni cyfleustodau hanfodol yma yn ymwybodol o’i ddyletswyddau i bobl yng Nghymru.”

‘Cyfarfod brys’

Dywed Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, ei bod hi am ofyn am gyfarfod ag OVO ar frys i drafod y mater ac y bydd hi’n eu hatgoffa nhw o’u “cyfrifoldeb i’w cwsmeriaid yng Nghymru”.

“Mae’n siomedig clywed bod OVO Energy yn bwriadu rhoi’r gorau i’r gwasanaeth ffôn Cymraeg ac na fydd unrhyw ohebiaeth yn cael ei anfon yn Gymraeg o hyn ymlaen,” meddai.

“Rydym wedi cynnal ymchwiliad Safonau i gwmnïau ynni ac wedi cyflwyno’r adroddiad i Lywodraeth Cymru i’w ystyried o ran dod â’r cwmnïau hyn o dan Safonau’r Gymraeg.

“Byddaf yn cysylltu ag OVO Energy yn gofyn am gyfarfod brys i drafod y sefyllfa yn y gobaith y byddant yn barod i ystyried posibiliadau eraill, tra ar yr un pryd yn eu hatgoffa o’u cyfrifoldeb i’w cwsmeriaid yng Nghymru.

“Fel rhan o’n gwaith parhaus a’r cytundeb cydweithio presennol rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru rydym am ddod â mwy o gyrff o dan Safonau’r Gymraeg cyn diwedd y tymor hwn o’r Senedd, gan gynnwys darparwyr dŵr, cymdeithasau tai a chwmnïau rheilffyrdd.”

 

Y Senedd yn gwrthod hawl statudol i’r Gymraeg yn y sector preifat

“Mae’n hen bryd i hawliau sylfaenol siaradwyr Cymraeg gael parch drwy statud, a hynny ym mhob agwedd ar fywyd”

Hywel Williams yn ystyried gadael HSBC tros ffrae am gau’r llinell Gymraeg

Mae Aelod Seneddol Arfon yn gwsmer ers hanner canrif, meddai