Mae’r Senedd wedi gwrthod cynnig i orfodi sefydliadau yn y sector preifat, megis banciau, i orfod dilyn Safonau’r Gymraeg ar sail statudol.
Daw hyn ar ôl i gynnig Llywodraeth Cymru i nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2022-23 gael ei dderbyn.
Roedd yr adroddiad eisoes yn annog sefydliadau’r sector preifat i ddefnyddio’r Gymraeg ar sail anstatudol, ond cynigiodd Plaid Cymru welliant yn galw am newid hynny i sail statudol.
Pleidleisiodd 26 Aelod o’r Senedd o blaid eu cynnig, gan gynnwys y Ceidwadwyr Cymreig.
Fodd bynnag, chafodd e mo’i basio ar ôl i 27 Aelod, gan gynnwys Llywodraeth Lafur Cymru, bleidleisio yn ei erbyn.
Cyfiawnhad Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg, dros beidio â chefnogi’r gwelliant yw nad yw’n rhan o raglen ddeddfwriaethol y llywodraeth.
“Wrth gwrs, rydyn ni wedi cytuno â Phlaid Cymru raglen o weithgarwch ynglŷn â’r blaenoriaethu – y pethau rydyn ni’n teimlo ar y cyd wnaiff y gwahaniaeth fwyaf i’r nifer fwyaf o bobol,” meddai.
“Felly dyna’r rheswm na fyddwn yn cefnogi’r gwelliant.”
Er hynny, ychwanega ei fod yn cytuno bod “agwedd sarhaus ar ran banc HSBC” o ran diffyg parch a chynhwysedd o ran y Gymraeg dywedodd ei fod wedi ysgrifennu at benaethiaid y banciau i gyd.
Eglura fod y Comisiynydd yn gweithio i greu perthynas fwy rhagweithiol gyda chyrff cyhoeddus er mwyn sicrhau eu bod yn deall eu cyfrifoldebau ac er mwyn lleihau’r angen am gamau rheoleiddiol.
“Bygythiad gwirioneddol” i’r iaith
Wrth ddatgan ei gefnogaeth, dywedodd y Ceidwadwr Sam Kurtz fod agwedd HSBC wrth roi’r gorau i’r gwasanaeth ffôn yn “warthus.”
“I mi, roedd yn dangos diffyg parch at eu cwsmeriaid Cymraeg a’r iaith ac yn niweidio enw da’r cwmni yma yng Nghymru,” meddai.
“Mae’r comisiynydd a’i rhagflaenwyr wedi gweithio’n galed i annog y defnydd o’r Gymraeg drwy ddulliau anstatudol.
“Efallai mai nawr yw’r amser i fanciau gadw at safonau swyddogol y Gymraeg.”
Yn yr un modd, dywed Heledd Fychan fod “bygythiad gwirioneddol” o ran y diffyg defnydd o’r Gymraeg.
“Dw i’n ofni, os nad ydyn ni’n edrych o ran ehangu’r rheoliadau ac ati a safonau, byddwn ni’n gweld mwy a mwy o bobl yn dewis torri gwasanaethau, sydd yn mynd yn gyfan gwbl groes i’r amcan sydd gennym ni o ran nid yn unig cynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg, ond y defnydd o’r Gymraeg fel iaith o ddydd i ddydd,” meddai.
“Oherwydd mae yna fygythiad gwirioneddol fan hyn.”
Parch drwy statud
Ychwanega Siân Gwenllian fod y ddarpariaeth Gymraeg sydd i’w disgwyl gan fanciau wedi dirywio’n sylweddol ers y 1970au.
Dywed na ddylai fod yn rhaid i siaradwyr Cymraeg ymgyrchu dros yr iaith, a bod angen sicrhau parch i’r Gymraeg drwy statud.
“Dwi’n am sôn am ail enghraifft yn ddiweddar o ran pam mae angen ymestyn y safonau, sef ymgyrch Toni Schiavone i gael tocyn parcio Cymraeg gan One Parking Solution,” meddai.
“Unwaith eto, mae’r ymateb yn un trahaus a sarhaus.
“Pam mae’n rhaid i siaradwyr Cymraeg barhau i ymgyrchu a mynnu cael gwasanaethau drwy’r Gymraeg?
“Mae’n hen bryd i hawliau sylfaenol siaradwyr Cymraeg gael parch drwy statud, a hynny ym mhob agwedd ar fywyd.”