Ar ôl i Sinn Féin ennill mwyafrif yn Senedd Gogledd Iwerddon bron i ddwy flynedd yn ôl, bydd gan Stormont y Prif Weinidog cenedlaetholgar cyntaf – ac mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, ymhlith y rhai cyntaf i’w llongyfarch.

Mae manylion cytundeb rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a phlaid unoliaethol y DUP yng Ngogledd Iwerddon wedi cael eu cyhoeddi, sydd yn rhoi terfyn ar y rhwystr i wleidyddiaeth y wlad.

Ers dwy flynedd, mae’r DUP wedi bod yn gwrthod cymryd rhan yn Llywodraeth Gogledd Iwerddon i ddangos eu gwrthwynebiad i reolau masnachu ar ôl Brexit.

Bydd y cytundeb yn golygu bod llai o wiriadau a gwaith papur wrth symud nwyddau rhwng gwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon.

Roedd y blaid yn dadlau bod gwneud gwiriadau rhwng Gogledd Iwerddon a Chymru, Lloegr a’r Alban yn tanseilio lle Gogledd Iwerddon yn y Deyrnas Unedig.

Ers etholiad ym mis Mai 2022, Sinn Féin yw’r blaid fwyaf yn Stormont, a bydd Michelle O’Neill, arweinydd y blaid, yn dod yn Brif Weinidog gweriniaethol cyntaf Gogledd Iwerddon wrth i’r boicot ddod i ben.

Fel y blaid â’r nifer uchaf ond un o bleidleisiau, daw arweinydd y DUP, Sir Jeffrey Donaldson, yn Ddirprwy Brif Weinidog.

Mae system Gogledd Iwerddon yn golygu bod rhaid i’r pleidiau mwyaf unoliaethol a chenedlaethol rannu swyddi’r Prif Weinidog a’r Dirprwy Brif Weinidog.

‘Hanesyddol’

Wrth i’r newydd ddod am y cytundeb, mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi dymuno’r gorau iddi mewn neges drwy gyfrwng yr iaith Wyddeleg.

“Ádh mór leis an obair atá romhaibh,” meddai.

Mae ei neges yn golygu “Pob lwc gyda’r gwaith rydych chi’n ei wneud”.

“Dydy hi ddim yn bosib gorbwysleisio’r cam o gadarnhau Michelle O’Neill fel Prif Weinidog,” meddai Liz Saville Roberts.

“Awr wirioneddol hanesyddol i bobol ledled yr ynysoedd hyn.

“Rydyn ni ym Mhlaid Cymru yn edrych ymlaen at gydweithio.”

Brynhawn heddiw (dydd Mercher, Ionawr 31), mae Michelle O’Neill wedi dweud ei bod hi’n croesawu’r ffaith fod y weinyddiaeth am fod yn un sy’n gweithio eto.

“Dw i’n benderfynol o arwain Gweinyddiaeth newydd fel Prif Weinidog i bawb, a gweithio gyda phob plaid i lwyddo i ateb anghenion ac uchelgeisiau gweithwyr, teuluoedd a busnesau.”

Beth yw’r cytundeb newydd?

Fe fydd y cytundeb yn golygu bod llai o wiriadau ar nwyddau sy’n mynd o wledydd Prydain i Ogledd Iwerddon.

Dydy’r newidiadau ddim ond yn berthnasol i nwyddau sy’n aros yng Ngogledd Iwerddon, a fydd dim gwiriadau arnyn nhw.

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Chris Heaton-Harris, Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon, mai’r cytundeb “ydy’r un iawn ar gyfer Gogledd Iwerddon a’r undeb”.

Ychwanega ei bod hi’n bwysig i wleidyddion “ddod ynghyd a chydweithio”.

Bydd Llywodraeth San Steffan hefyd yn cyflwyno dau ddarn o ddeddfwriaeth i sicrhau bod nwyddau o Ogledd Iwerddon yn gallu cael eu gwerthu yn Lloegr, yr Alban a Chymru ac i gadarnhau rhan Gogledd Iwerddon yn y Deyrnas Unedig.

Wrth siarad â BBC Radio Ulster heddiw, dywedodd Sir Jeffrey Donaldson, arweinydd y DUP, fod y cytundeb yn cael gwared ar y ffin fasnachu ym Môr Iwerddon.

“Dydyn ni ddim mewn sefyllfa lle mae’n rhaid cael datganiad tollau wrth ddod â nwyddau i’w gwerthu yng Ngogledd Iwerddon mwyach,” meddai.

 

‘Refferendwm ar uno Iwerddon yn bosib yn y tymor canolig yn hytrach na’r tymor hir nawr’

Cadi Dafydd

Canlyniad Sinn Féin yn “un eithaf seismig”, ac yn gam ymlaen i weriniaethwyr gyrraedd eu hamcanion, medd Dr Thomas Leahy o Brifysgol Caerdydd